Mabli Siriol o Grangetown yng Nghaerdydd yw cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith.

Cafodd ei hethol gan aelodau’r mudiad yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7), yn dilyn cyfnod o bleidleisio post.

Mae’n olynu Bethan Ruth.

Roedd Mabli Siriol yn gadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas cyn hyn, ac yn ymgyrchydd gyda Grŵp Addysg a Chell Caerdydd y Gymdeithas ers sawl blwyddyn.

Mae’n gweithio ym maes hawliau ceiswyr lloches a chyn hynny, roedd hi’n gweithio yn Senedd Cymru ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb i bobol LHDT.

Ymateb

“Mae’n fraint cael fy ethol yn gadeirydd i fudiad iaith sy’n chwarae rhan mor allweddol yn y frwydr dros y Gymraeg a chymunedau Cymru,” meddai Mabli Siriol.

“Hoffwn ddiolch i Bethan Ruth, sydd wedi bod yn gadeirydd rhagorol a chydwybodol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod cyfnod heriol a digynsail.

“Fel cadeirydd, fy mlaenoriaeth i dros y flwyddyn nesaf fydd ymgyrchu dros y weledigaeth yn ein dogfen ar gyfer etholiadau’r Senedd 2021, ‘Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’.

“Bydd gweithredu agenda dinasyddiaeth Gymraeg i bawb yn sicrhau fod pawb, o bob cefndir, yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg, a bod y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd bob dydd ar draws y wlad.

“Mewn cyfnod anodd ac ansicr, pan mae wedi bod yn hawdd digalonni ar adegau, sylfaen gobaith i mi ydy’r sicrwydd sydd gen i fod modd i bobl gyffredin newid pob dim.

“Mae gan Gymdeithas yr Iaith hanes hir o frwydro ac ennill pethau nad oedd pobl yn meddwl oedd yn bosib ar y pryd.

“Felly dw i’n ffyddiog, os wnawn ni barhau i gydweithio a chyd ymgyrchu, wnawn ni wireddu gweledigaeth y Gymdeithas o Gymru gyfiawn Gymraeg.”