Mae cynnig wedi’i dderbyn yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas yr Iaith i beidio ag ymwneud â phlaid wleidyddol Gwlad a nifer o bleidiau asgell dde eraill.

Yn ôl y cynnig ‘Ymwneud â phleidiau gwleidyddol’ a gafodd ei gyflwyno gan Senedd Cymdeithas yr Iaith, maen nhw hefyd yn gwrthod ymwneud â’r BNP, Britain First, UKIP a Phlaid Brexit.

Mae’r cynnig yn dweud bod y Gymdeithas “yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy’n croesawu pobol i’n gwlad waeth bynnag eu cefndir a hunaniaeth”.

Dywed ymhellach y “dylai’r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb”.

Ond maen nhw wedyn yn dweud “na ddylem fel mudiad ymwneud â phleidiau gwleidyddol sy’n hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn unrhyw grŵp yn ein cymdeithas megis pobol LHDT+, pobol groenliw, mudwyr a merched”.

Mae’r cynnig yn nodi:

  • fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng pleidiau sy’n hybu neu odef ideoleg adain dde eithafol ac agweddau rhagfarnllyd, a phleidiau gwleidyddol sydd ag aelodau sy’n arddel yr agweddau hynny, yn groes i bolisi a gweithredoedd swyddogol y blaid
  • fod rhai pleidiau wedi dangos patrwm o weithredoedd sy’n dangos eu bod yn cyrraedd o drothwy a nodir ym mhwynt 1 (ii) uchod (sef pleidiau sy’n hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd

Mae’r cynnig hefyd yn galw “ar holl bleidiau Cymru i fynd ati’n rhagweithiol i addysgu eu haelodau etholedig, aelodau cyffredin ac ymgeiswyr ar bwysigrwydd cydraddoldeb a herio agweddau rhagfarnllyd lle mae’r rhain yn codi”.

Ymateb Gwlad

Yn ôl plaid Gwlad, mae’n “gelwydd” eu bod nhw’n “blaid asgell dde bell”.

“Mae’r celwydd bod Gwlad yn blaid asgell-dde bell wedi cael ei ddefnyddio yn ein herbyn ers in ni gychwyn, ond celwydd llwyr y mae o hyd,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Estynnwn groeso i unrhyw un ar unrhyw bryd archiwilio ein blog, ein Maniffesto, ein cyfrif Trydar neu’n cyfrif Facebook a gadael i ni wybod os ddown nhw ar draws yr awgrymiad lleiaf o’r ffasiwn syniadau.

“I’r gwrthwyneb, byddan nhw’n ffeindio plaid sydd wedi siarad yn gryf o blaid derbyn pobl o bob tras i fewn i’r cenedl Cymreig, yn llwyr gwrthod y syniad bod rhaid i fod yn perthyn i unrhyw grwp ‘ethnig’ i fod yn Gymro, ac yn honni y dylai’r cymuned Cymraeg yn enwedig gwneud ei orau i groesawu pob o bob cefndir i fewn.

“Mae’n wir ein bod ni’n fodlon i alw ein hunain yn ‘geidwadol’ (gydag ‘c/g’ bychan), ac mae ein syniadau economaidd yn tueddu at y canol-dde oherwydd dyna beth sy’n gweithio’n orau i greu ffyniant a thegwch.

“Mae hefyd yn wir ein bod ni’n cefnogi Brexit, fel y rhan fwyaf clir o bleidleiswyr Cymru.

“Doedden ni ddim yn fodlon i neidio ar “bandwagon” Black Lives Matter oherwydd, er ein bod ni’n cefnogi yr egwyddor yn gryf, roedd yn amlwg i ni fod y cyfundrefn ei hunan yn amheus, ac mae’n debyg bod llawer o bobl eraill wedi sylwi hynny erbyn hyn.

“Ond does gennym ni ddim yn gyffredin gyda’r grwpiau eraill mae Cymdeithas yn sôn amdanynt, ac mae’n warthus i Gymdeithas yr Iaith awgrymu bod.”