Mae adroddiad blynyddol ar garthffosiaeth wedi datgelu bod unigolyn wedi derbyn triniaeth ar ôl bod ar draeth yng Ngheredigion.
Mae’r mudiad Surfers Against Sewage wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos hyd a lled y broblem sy’n achosi salwch ymhlith pobol sy’n mynd i mewn i’r môr yng ngwledydd Prydain.
Ymhlith y 2,941 o achosion yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi eleni roedd person oedd wedi gorfod derbyn triniaeth am boen stumog ar ôl bod yn nofio ym Mwnt.
Mae’r mudiad bellach yn cyhuddo cwmnïau dŵr o roi elw ariannol uwchlaw gwarchod yr amgylchedd drwy roi camau ar waith sy’n golygu bod dŵr heb ei drin a dŵr stormydd yn gorlifo i’r môr yn ystod glaw trwm fel rhan o ymdrechion i atal carthffosiaeth rhag gorlifo.
‘Fel carthffosiaeth agored’
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod afonydd a moroedd yn cael eu trin fel carthffosydd agored gan fod gorlifiadau carthffosydd cyfun yn cael eu defnyddio fel dull cyffredin o waredu carthffosiaeth, yn hytrach nag mewn amgylchiadau eithriadol fel sy’n cael ei ganiatáu,” meddai Hugo Tagholm, prif weithredwr SAS.
“Hyd yn oed yn waeth, dydy rhai – fel Southern Water – ddim hyd yn oed yn hysbysu’r cyhoedd wrth wneud hyn fel bod modd i bobol wneud penderfyniadau deallus ynghylch eu hiechyd eu hunain.
“Mae hyn yn teimlo’n arbennig o erchyll yn ystod blwyddyn pan ydyn ni i gyd yn brwydro’r pandemig Covid-19, feirws sy’n cael ei olrhain drwy weithfeydd carthffosiaeth.”
Mae ymgyrchwyr yn galw am ystod o fesurau newydd i ddatrys y sefyllfa, gan gynnwys buddsoddiad gan gwmnïau mewn isadeiledd carthffosiaeth.