Mae’r awdurdodau yn y Côte d’Ivoire wedi arestio arweinydd gwrthblaid y wlad am wrthwynebu canlyniad yr etholiad cyffredinol.

Roedd Pascal Affi N’Guessan ymhlith y rhai oedd wedi codi amheuon ynghylch y canlyniad ar ôl i’r arlywydd Alassane Ouattara ennill trydydd tymor wrth y llyw.

Cafodd ei arestio yn ninas Akoupe ar ei ffordd i Bongouanou, yn ôl llefarydd ar ran ei blaid, ac fe ddaw ddyddiau’n unig ar ôl i Maurice Kakou Guikahue, swyddog plaid arall, hefyd gael ei arestio mewn perthynas â’r helynt.

Yn ôl rheolau’r wlad, gall arlywydd fod wrth y llyw am ddau dymor, ond mae’r arlywydd yn honni y gall e hawlio trydydd tymor fel rhan o refferendwm ar newidiadau i’r cyfansoddiad yn 2016.

Fe wnaeth Pascal Affi N’Guessan ac Henri Konan Bedie, arweinydd gwrthblaid arall, gynnal boicot o’r etholiad.

Mae disgwyl i N’Guessan gael ei gyhuddo o frawychiaeth ac ymosod ar awurdod y wladwriaeth.

Mae’r awdurdodau hefyd yn awyddus i holi Albert Toikeusse Mabri, ffigwr blaenllaw arall yr wrthblaid.

Ond dydy Henri Konan Bedie, sy’n 86 oed, ddim wedi cael ei arestio na’i gadw yn y ddalfa yn ei gartref.

Cafodd mwy na 3,000 o bobol eu lladd yn y wlad yn dilyn ffrae debyg ddegawd yn ôl, ac mae mwy na 30 o bobol eisoes wedi marw yn dilyn yr un helynt eleni.