Does gan “wleidyddiaeth asgell dde” ddim byd positif i’w gynnig i’r mudiad cenedlaetholgar nac i ddyfodol Cymru, yn ôl ymgyrchydd sy’n hyrwyddo “buddiannau cymunedau llawr gwlad”.

Cafodd Undod ei lansio ym mis Ionawr 2019, ac ers hynny mae’r mudiad wedi bod yn ymgyrchu’n frwd tros annibyniaeth i Gymru.