Ai oherwydd y ‘clo’ ry’n ni gyd wedi arafu? Neu ydw i’n trïo bod yn garedig i fi fy hun, yn unig? Dyw’r wraig ddim ‘di arafu’r un blewyn – mae hi mas fel cleren tinlas yn rhoi ordors o fore ddydd tan nos. Rwy’n teimlo fel Basil Fawlty yn aml-dasgio wrth y dderbynfa, a gosod pen y Moose nôl ar y wal tra’n jyglo â chwsmeriaid annosbarthus.