Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Bywgraffiad Donald Spoto o Sant Ffransis o Assisi (2002). Chwip o sant. Hoffwn ei wahodd i swper. Rwy newydd gwpla bywgraffiad o Santes Catrin o Siena. Pwnc niche, sych? Na: yn y bywgraffiadau cawn gipolwg ar ddramâu ysbrydol, emosiynol, corfforol a gwleidyddol… Geiriau olaf Santes Catrin? – ‘Gwaed! Gwaed!’ Dyrchafol ac arswydus.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd