Ambell waith bydd rhywbeth yn digwydd a chi’n ffindo’ch hun yn meddwl ‘shwt na ddigwyddodd hynna’n gynt?’ Dyna aeth trwy fy meddwl i pan ges i decst wrth gyfaill o Fryste’n dweud: “They’ve taken down Colston yn rolled him into the harbour! Haha!” Shwt mai dim ond nawr ma’ cerflun o fasnachwr caethweision yn cael ei dynnu i lawr yn un o ddinasoedd mwya’ Prydain? Ma’ pobol ddu wedi gorfod cerdded heibio hwnna, sy’n dathlu – dathlu! – masnachwr caethweision, bob dydd. Dyle fe ’di dod lawr amser maith yn ôl.
Ro’dd ’na ddadle wedyn, wrth gwrs – ‘these things should be done through the proper channels!’ ac ati. Galle hyn fod yn bwynt teg – os yden ni wir yn ddigon hurt i gredu bo’ neb wedi rhoi cynnig ar y proper channels. Ond wrth gwrs, mi roedden nhw. Ma’ Bryste wedi bod yn trafod Colston ers blynydde, ac ro’dd y cyngor wedi methu hyd yn oed gytuno ar eiriad ar gyfer plac newydd i o leia’ roi rhywfaint o’r cyd-destun. Felly, wedi methiant y proper channels, i mewn i’r dŵr â fe.
I unrhyw un sy’n amau a oedd y protestwyr yn iawn i wneud be wnaethon nhw, wele drannoeth wleidyddion lled-gall, Mark Drakeford ein Prif Weinidog yn eu plith, yn cytuno ei bod hi’n hen bryd inni “gymryd camau” o ran rhai o’n cofebau ni yma yng Nghymru – yn benodol, cofebau i Syr Thomas Picton yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, a chofeb i H M Stanley yn Ninbych.
Ma’ protestwyr Bryste wedi neud ffafr â ni – gan roi cyfle inni ddefnyddio ein proper channels i ddilyn eu hesiampl. A dylen ni wneud hynny’n reit handi.
Ar ôl holl ddadleuon Brexit, sydd wedi arwain at do hŷn niferus y Baby Boomers yn cael eu ffordd eto, mae egni ymgyrch Black Lives Matter yn chwa o awyr iach gobeithiol.
Yn anffodus, mae’r drafodaeth am y materion hyn yn dueddol o ffrwydro a chael sylw mawr am gyfnod cyn diflannu wrth i fuddion y mwyafrif ailennill y brif ffrwd. Er enghraifft, er yr ymateb chwyrn i sgandal Windrush, ddiwedd mis diwethaf roedd Diane Abbott yn gorfod dweud hyn yn Senedd San Steffan: “Pan dorrodd y sgandal, dywedodd gweinidogion y byddai hyn yn cael ei sortio mewn rhai wythnosau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach a dydyn nhw dal ddim wedi gwneud fyny am y drwg.”
Dylse’r drafodaeth fod yn un amlwg a pharhaus i sicrhau newid, ddim jyst o bryd i’w gilydd pan fo pobl wedi cael eu gwthio’n llawer rhy bell.
Yng Nghymru, mae sianel Hansh S4C yn gwneud cynnwys gwych sy’n adlewyrchu’r Gymru Gymraeg sydd ohoni – mewn ffordd sy’ ’di neud i fi feddwl: be sy’n stopio’r gweddill ohonon ni? Fel golygydd, dw i’n awyddus i Golwg ddilyn eu hesiampl. Bydd gwefan newydd gan golwg360 yn fuan gydag adran Safbwynt fydd ond cystal â’i chyfranwyr: garmon@golwg.com yw fy nghyfeiriad os hoffech chi, neu rywun chi’n ei adnabod, gyfrannu.