Mae’r disgybl ysgol Lloyd Warburton yn seren ar wefan Twitter ac – yn ôl ‘Y Mab Darogan’ ei hun – yn “ddarpar Brif Weinidog”.

Mae’r llanc 16 oed yn hanu o Aberystwyth, ac ers dechrau’r argyfwng coronafeirws mae wedi bod yn creu tablau a graffiau am ledaeniad yr haint yng Nghymru.

Pob dydd mae’n gosod y ffigurau ar ei wefan, ac yn eu trydaru, ac erbyn hyn mae ganddo dros 10,000 o ddilynwyr ar Twitter.