Does dim dewis gan bobol groenddu Cymru ond protestio yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn ôl trefnydd protestiadau diweddar.

Ers diwedd mis Mai mae protestiadau wedi cael eu cynnal ledled yr Unol Daleithiau yn ymateb i blismona llawdrwm a hiliaeth.

Cawson nhw eu tanio wedi i ddyn croenddu o’r enw George Floyd farw wrth gael ei arestio gan ddyn gwyn, ac erbyn hyn mae’r gwrthdystio wedi lledu i bedwar ban byd.