Dw i’n wyn. Alla i ddim dychmygu sut brofiad yw bod yn ddu. Ond…

Pe bawn i’n gwybod bod fy nghyndeidiau wedi cael eu prynu a’u gwerthu i estroniaid, byddwn i’n gandryll.

Pe bawn i’n gwybod bod fy nghyndeidiau wedi eu rhoi mewn cadwyni, eu dwyn oddi ar eu teuluoedd, eu hanfon o’u cartrefi a’u gwledydd i fyw’n gaeth mewn gwledydd estron, byddwn i’n gandryll.