Mae’r cyfnod clo 17 diwrnod bellach wedi dod i ben yng Nghymru ac mae rheolau newydd wedi dod i rym i fynd i’r afael a’r coronafeirws.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi rhybuddio “na allwn fynd yn ôl at y ffordd yr oeddem yn byw ein bywydau” cyn covid.
“Mae angen i bob un ohonom feddwl am ein bywydau ein hunain a’r hyn y gallwn i gyd ei wneud i gadw ein teuluoedd yn ddiogel.
“Mae’r coronafeirws yn feirws heintus iawn – mae’n ffynnu ar gyswllt rhwng pobol.
“Er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel mae angen i ni leihau nifer y bobol y mae gennym gysylltiad â nhw a faint o amser rydym yn ei dreulio gyda nhw.
“Bydd cyfres newydd o fesurau cenedlaethol o heddiw ymlaen, sydd yn ddilyniant i’r holl waith caled a’r aberth sydd wedi’u gwneud yn ystod y clo.
“Ni allwn fynd yn ôl at y ffordd yr oeddem yn byw ein bywydau a gadael i’r hyn sydd wedi ei gyflawni i fynd yn ofer.”
Dywedodd Mark Drakeford ar y Post Cynta bore ma (Dydd Llun, Tachwedd 9) mai’r nod nawr yw sicrhau cysondeb “fel bod un cynllun ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.” Ychwanegodd y bydd cyfarfod gyda’r gweinidog Michael Gove yr wythnos hon i drafod trefniadau ar gyfer y Nadolig.
Y mesurau newydd
Mae hawl gan bobol i deithio i unrhyw le o fewn Cymru, ond ni chaniateir i bobol deithio i rannau eraill o wledydd Prydain oni bai am resymau rhesymol.
Er y gall grwpiau o hyd at bedwar o bobol o aelwydydd gwahanol gyfarfod mewn caffis, tafarndai a bwytai bydd hynny gyda phobol o’r swigen yn unig.
Ond bydd pobol ond yn cael cwrdd y tu mewn i gartrefi gydag aelodau o un cartref arall os ydynt wedi ymuno mewn “swigen”.
Yn dilyn pryderon y gallai pobol o Loegr groesi’r ffin i ddod i dafarndai bydd rhaid i bobol brofi eu cyfeiriad cartref mewn tafarndai – mae’r rheol sy’n atal gwerthu alcohol ar ôl 10 yr hwyr yn parhau o hyd.
Bydd siopau, campfeydd, siopau trin gwallt a mannau addoli hefyd yn ailagor a gall archfarchnadoedd werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol unwaith eto.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cyfyngiadau mewn rhai ardaloedd fel Merthyr Tudful, sydd â 741 o achosion i bob 100,000 o bobol, y nifer uchaf yn y Deyrnas Unedig.
‘Sefydlogrwydd’
Yn ôl Llywodraeth Cymru gall gymryd hyd at dair wythnos nes bydd Cymru’n gweld gostyngiad mewn achosion cyffredinol o ganlyniad i’r clo dros dro.
Er hyn mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn ffyddiog fod “arwyddion cynnar o sefydlogrwydd”.
“Roeddem bob amser yn cydnabod y byddai oedi yn y ffigurau sy’n dangos pa mor llwyddiannus y buom,” meddai wrth BBC Radio 4.
“Ond rydym yn gweld rhai arwyddion cynnar o sefydlogrwydd ac rydym yn gweld hynny mewn data symudedd.
“Mae llai o bobol Cymru wedi bod yn teithio yn ystod y clo, ac rydym yn dechrau gweld effaith hynny ar rai o’r cyfraddau profi.”
Ond fe rybuddiodd na “allen ni fynd yn ol i’r ffordd roedden ni’n ymddwyn o’r blaen.
“Mae’n rhaid i ni barhau i weithredu’n wahanol.”