Mae’r Arlywydd Donald Trump yn dal heb ildio wedi canlyniadau’r etholiad yn yr Unol Daleithiau wrth i’w olynydd Joe Biden ddechrau amlinellu ei gynlluniau ar gyfer y Tŷ Gwyn.
Mae Donald Trump yn parhau i anwybyddu’r cyfryngau ers i ddarlledwyr gyhoeddi ddydd Sadwrn mai Joe Biden a Kamala Harris oedd yn fuddugol ddydd Sadwrn.
Yn ôl y Tŷ Gwyn, nid oedd gan Donald Trump unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus wedi’u trefnu ddydd Llun (Tachwedd 9) a hynny ers iddo honni mai fe oedd yn fuddugol a bod twyll etholiadol wedi digwydd.
Nid yw Donald Trump wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth hyd yn hyn i brofi hynny.
Yn y cyfamser fe fydd y darpar arlywydd yn parhau i ddod a thasglu coronafeirws ynghyd ddydd Llun ac mae eisoes wedi dechrau enwi aelodau o’r grŵp.
Yn ôl adroddiadau mae Joe Biden hefyd yn ystyried cyflwyno cyfres o orchmynion i wyrdroi penderfyniadau dadleuol sydd wedi cael eu gwneud gan Donald Trump.
Dywedodd The Financial Times bod Joe Biden yn bwriadu ail-ymuno a Sefydliad Iechyd y Byd a chytundeb Paris ar newid hinsawdd. Mae hefyd yn bwriadu dod a diwedd i’r gwaharddiad teithio ar ddinasyddion o saith o wledydd, Mwslimaidd yn bennaf.
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn dal i ddisgwyl galwad ffon gan y darpar arlywydd wrth i adroddiadau awgrymu na fydd cytundeb masnach gyda’r Deyrnas Unedig yn flaenoriaeth iddo.
Roedd Boris Johnson wedi llongyfarch Joe Biden a’i is-arlywydd Kamala Harris ddydd Sul.