Mae Iran yn galw ar Joe Biden i ailafael mewn cytundeb niwclear y gwnaeth ei ragflaenydd Donald Trump gefnu arno.

Mae Hassan Rouhani eisiau i’r arlywydd newydd “wneud yn iawn am gamgymeriadau’r gorffennol”, yn ôl asiantaeth newyddion yn Iran.

Fe fu cynnydd yn y tensiwn rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran o dan arweinyddiaeth Donald Trump ar ôl iddo dynnu’r wlad yn ôl o’r cytundeb yn 2018, ac fe ddaeth y cyfan i fwcwl yn gynharach eleni.

Ers hynny, mae’r Unol Daleithiau wedi ailgyflwyno sancsiynau sydd wedi bod yn ergyd drom i economi Iran, ac fe waethygodd y sefyllfa eto yn sgil y coronafeirws.

Mewn ymgais i annog arweinwyr Ewrop i lacio’r sancsiynau, mae Iran wedi cefnu ar rai o gyfyngiadau dadleuol y cytundeb.

“Fe wnaeth pobol Iran, drwy eu gwrthwynebiad arwrol i’r rhyfel economaidd a gafodd ei gyflwyno, brofi fod polisi gwasgedd mwyaf yr Unol Daleithiau am fethu,” meddai Hassan Rouhani, wrth ychwanegu mai “strategaeth” Iran yw “ymgysylltu’n adeiladol â’r byd”.

Yn gynharach heddiw (dydd Sul, Tachwedd 8), dywedodd Mohammed Javad Zarif, Gweinidog Tramor Iran, fod “y byd yn gwylio” Joe Biden a’i barodrwydd i geisio cydweithrediad er gwaethaf dulliau ei ragflaenydd Donald Trump.

“Gweithredoedd sydd bwysicaf,” meddai.