Mae pobol yn Lloegr wedi bod yn cwyno ar wefan gymdeithasol Twitter ar ôl i archfarchnadoedd Tesco a Sainsbury’s atal mynediad at silffoedd o nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn ystod y cyfnod clo.

Cafwyd golygfeydd tebyg yng Nghymru’n ddiweddar yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clo dros dro.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Prydain a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Tachwedd 5), mae’n rhaid i siopau yn Lloegr sydd â digon o ofod gau adrannau lle mae nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cael eu cadw a’u harddangos.

Ond mae pobol yn cwyno nad ydyn nhw’n gallu prynu dillad a nwyddau eraill.

Serch hynny, mae Tesco yn cynghori pobol bod modd cael cymorth i brynu’r nwyddau sydd eu hangen arnyn nhw pe baen nhw’n gofyn.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Prydain, gall siopau yn Lloegr nad oes rhaid iddyn nhw gau adrannau ac “sy’n gwerthu swm sylweddol o nwyddau hanfodol barhau i werthu nwyddau sydd fel arfer yn cael eu gwerthu mewn siopau nad ydyn nhw’n hanfodol”.