Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, longyfarch Joe Biden mewn galwad ffôn “cyn bo hir” ar ôl i’r Democrat ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu y byddan nhw’n trafod natur y berthynas rhwng y ddwy wlad, a allai fod yn bwysicach fyth wrth i Lywodraeth Prydain geisio cytundebau masnach ar ôl Brexit.

Yn ôl Boris Johnson, mae’n disgwyl i’r berthynas rhwng y ddwy wlad barhau’n gryf yn ystod cyfnod yr arlywydd newydd wrth y llyw.

“Yr Unol Daleithiau yw ein cynghreiriaid agosaf a phwysicaf, ac mae hynny wedi bod yn wir arlywydd ar ôl arlywydd, prif weinidog ar ôl prif weinidog – fydd hynny ddim yn newid,” meddai Boris Johnson.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r Arlywydd Biden a’i dîm ar lawer o bethau hanfodol i ni dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod: herio newid hinsawdd, masnach, diogelwch rhyngwladol, a nifer fawr iawn o faterion eraill.”

Sgyrsiau

Dywedodd Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain, wrth raglen Andrew Marr ar y BBC ei fod e’n disgwyl i Boris Johnson a Joe Biden sgwrsio “cyn bo hir”, ar ôl iddo yntau hefyd gynnal sgwrs â’r Seneddwr Chris Coons, y ffefryn i gael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau.

“Yn rhyfedd ddigon, fe wnes i gyfnewid negeseuon gyda’r Seneddwr Coons, mae ein llysgenhadaeth mewn cysylltiad â’r ymgyrch a dw i’n sicr y bydd galwad rhwng y darpar arlywydd a’r prif weinidog maes o law,” meddai.

Mae lle i gredu y gallai Boris Johnson gynnig adeiladu clymblaid newid hinsawdd â’r Unol Daleithiau ac i rannu syniadau ynghylch eu hadferiad coronafeirws.

Yn ôl y Sunday Times, mae Boris Johnson yn dweud fod Joe Biden “yn un o’r ychydig arweinwyr byd nad ydw i wedi eu sarhau”.

Ond mae’n ymddangos y bydd angen codi pontydd ar ôl i Tommy Vietor, un o swyddogion y cyn-Arlywydd Barack Obama, alw Boris Johnson yn “grafwr sioni-bob-ochr” yn dilyn neges y prif weinidog ar Twitter yn llongyfarch yr arlywydd newydd.

“Wnawn ni fyth anghofio eich sylwadau hiliol am Obama a’ch defosiwn slafaidd i Trump,” meddai Tommy Vietor.

Dydy Boris Johnson ddim wedi cyfarfod â Joe Biden, ac mae lle i gredu bod Theresa May yn cyfeirio at hynny mewn neges wrth drydar llun ohoni hi a Biden.

Yn 2019, fe gyfeiriodd yr arlywydd newydd at Boris Johnson fel “clôn corfforol ac emosiynol” o Donald Trump, ac mae Emily Thornberry, llefarydd masnach Llafur, yn dweud y byddai’n “anodd iawn” i Boris Johnson fagu perthynas â Joe Biden ar ôl perthynas mor agos â Donald Trump.

‘Llawer mwy sy’n ein huno nag sy’n ein gwahanu’

Wrth ategu neges Llywodraeth Prydain am Brexit a’r Undeb rhwng gwledydd Prydain, dywed Boris Johnson  fod “llawer mwy sy’n uno” y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau nag sy’n eu gwahanu.

“Mae gennym werthoedd cyffredin, buddiannau cyffredin, ac mae gennym ni bersbectif byd-eang cyffredin,” meddai.

Ond mae’n wfftio’r awgrym y gallai dod i gytundeb masnach fod yn fwy anodd yn dilyn buddugoliaeth Joe Biden a’r Democratiaid.

Mae’n dweud bod gan Lywodraeth Prydain “drafodwyr cadarn”.

“Mae yna siawns go dda y byddwn ni’n gwneud rhywbeth,” meddai.