Mae’r pentref yn ne India lle mae gwreiddiau teulu Kamala Harris yn dathlu ar ôl iddi ddod yn Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Roedd tân gwyllt a gwasanaeth gweddi yn rhan o’r dathliadau yn Thulasendrapuram yn nhalaith Tamil Nadu, lle mae 350 o bobol yn byw.
Daeth pobol ynghyd i ddarllen y newyddion ac i sgwrsio am ei buddugoliaeth cyn mynd i’r deml leol.
Mae arwydd wedi cael ei baentio ar eiddo yn y pentref yn ei llongyfarch ar fod yn “destun balchder ein pentref”.
“Merch ein pentref ni yw Kamala Harris,” meddai Aulmozhi Sudkhakar, cynghorydd y pentref.
“O blant i bobol mewn oed, mae pob un ohonom yn aros am y dydd y bydd hi’n tyngu llw fel dirprwy arlwyydd yr Unol Daleithiau.”
Mae disgwyl rhagor o ddathliadau’n ddiweddarach, ac mae’r pentrefwyr yn gobeithio y bydd cyfle i’w chroesawu hi’n ôl yno ryw ddiwrnod.
Y dathliadau
Roedd tua 50 o bobol y tu allan i’r deml wrth i glychau ganu ac offeiriad Hindwaidd yn dosbarthu losin a blodau yn rhodd.
Defnyddiodd menywod y pentref liwiau llachar i gyhoeddi neges cyn yr etholiad yn “dymuno buddugoliaeth i Kamala Harris”.
Symudodd tad-cu Kamala Harris ar ochr ei mam i Chennai, prifddinas y dalaith, ddegawdau’n ôl a chafodd ei mam ei geni yn India cyn symud i’r Unol Daleithiau yn 19 oed i astudio ym Mhrifysgol Califfornia.
Yno y gwnaeth hi gyfarfod â thad Kamala, sy’n hanu o Jamaica, ac fe wnaethon nhw roi enw Sanskrit ar ei merch, sy’n golygu ‘lotws’.
Mae enwau Kamala Harris a’i thad-cu wedi’u cerfio ar garreg sy’n dwyn enwau’r holl bobol sydd wedi rhoi arian i’r deml ar hyd y blynyddoedd.
Mae Narendra Modi, prif weinidog India, wedi llongyfarch Kamala Harris ar dorri tir newydd.
“Dw i’n hyderus y bydd y cysylltiadau bywiog rhwng India a’r Unol Daleithiau yn cryfhau eto fyth gyda’ch cefnogaeth a’ch arweiniad chi,” meddai.