Mae disgwyl i Boris Johnson barhau gyda’i fesur Brexit dadleuol er bod darpar arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden eisoes wedi rhybuddio’r Deyrnas Unedig am y ddeddfwriaeth ddrafft.

Wedi iddo longyfarch Joe Biden a’r darpar is-arlywydd Kamala Harris yn dilyn eu buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn bwriadu parhau gyda Mesur y Farchnad Fewnol gyda disgwyl pleidlais yn Nhy’r Arglwyddi yr wythnos hon.

Fe fyddai’r bil yn mynd yn groes i rai agweddau’n ymwneud a Gogledd Iwerddon yn y Cytundeb Ymadael ac mae’r Llywodraeth wedi cyfaddef ei fod yn torri cyfraith ryngwladol.

Roedd Joe Biden, sydd o dras Wyddelig, wedi rhybuddio ym mis Medi na ddylai Cytundeb Dydd Gwener y Groglith gael ei esgeuluso yn sgil Brexit.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wrth raglen y BBC Andrew Marr Show, bod Prydain “wedi gwrando’n ofalus ar ein cyfeillion yn America” ynglŷn â’u pryderon am effaith Brexit ar Ogledd Iwerddon.

Ychwanegodd ei fod yn “hyderus y byddwn yn delio a’r materion hynny mewn modd sensitif a phriodol.”

Michel Barnier yn Llundain

Yn y cyfamser mae prif negodwr yr Undeb Ewropeaidd (UE) Michel Barnier yn Llundain yr wythnos hon ar gyfer trafodaethau gyda’r Arglwydd Frost am gytundeb ol-Brexit wrth iddo geisio “dod i gytundeb sy’n parchu buddiannau a gwerthoedd yr UE a’i 27 o aelodau.”

Mae’n debyg bod gwahaniaethau’n parhau am gwotau pysgota, cystadleuaeth a hawliau gweithwyr.