Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu arholiadau 2021 yn awr a phenderfynu’r graddau ar sail asesiadau mewnol.

Dywed y blaid y byddai gohirio’r penderfyniad tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn annheg ar bobol ifanc, ac y byddai’n cynyddu’r pwysau sydd eisoes arnyn nhw.

Er bod Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, yn cyfeirio at “yr angen brys i roi mesurau yn eu lle ar gyfer arholiadau 2021”, dydy adroddiad dros dro’r Llywodraeth ar y mater ddim yn cael ei gyhoeddi tan ddiwedd Hydref, a does dim disgwyl gweld yr argymhellion terfynol tan fis Rhagfyr.

Dywed Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, fod canlyniadau’r adroddiadau yn rhy agos at rai arholiadau TGAU sydd i fod i gael eu cynnal ym mis Tachwedd eleni a Ionawr y flwyddyn nesaf.

Byddai gwneud y penderfyniad i ddiddymu arholiadau’r un pryd ag y maen nhw i fod i gael eu cynnal yn wastraff amser, meddai Delyth Jewell.

“Dylai’r penderfyniad i ddiddymu arholiadau gael ei wneud nawr.”

“Mae gan Lywodraeth Cymru’r cyfle i ddiddymu’r arholiadau nawr, yn lle gwastraffu amser yn gohirio penderfyniad y mae nifer o bobol yn weld fel un anochel,” meddai.

“Gall yr amser hwn gael ei ddefnyddio i sicrhau fod y graddau sydd yn cael eu penderfynu gan wahanol ganolfannau mor gadarn â sydd yn bosib, yn hytrach na pharatoi disgyblion at arholiadau.

“Mae disgyblion wedi datgan eu pryderon am ddychwelyd i’r ysgolion eisoes.

“Dylai’r penderfyniad i ddiddymu arholiadau’r flwyddyn nesaf gael ei wneud nawr.

“Dyma fyddai’r ffordd decaf, a hawsaf i gefnogi ein pobol ifanc.”

Yn dilyn helynt y canlyniadau Safon Uwch, cododd Plaid Cymru eu pryderon am y ffordd mae graddau yn cael eu penderfynu ar sail patrwm arholiadau.

Maen nhw wedi galw am ddiwygio’r ffordd mae disgyblion yn cael eu hasesu eisoes, a daw eu pryderon yn bwysicach fyth yn sgil y cynlluniau i gyflwyno cwricwlwm newydd a fydd, o bosib, yn golygu fod mwy o wahaniaethau yn y ffordd y bydd disgyblion yn cael eu dysgu.