Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod Julian Winter wedi’i benodi’n brif weithredwr yn dilyn ymadawiad y cadeirydd Trevor Birch, sydd wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau Pêl-droed Spurs.
Fe fydd y dyn 54 oed yn goruchwylio’r gwaith o redeg y clwb o ddydd i ddydd, gan ddechrau yn y swydd yn ddiweddarach y mis yma.
Mae’n uchel ei barch yn y byd pêl-droed, ar ôl treulio pedair blynedd wrth y llyw yn Huddersfield, gan helpu’r clwb i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.
Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr ar Watford, lle bu’n cydweithio â Brendan Rodgers, cyn-reolwr yr Elyrch.
Mae e hefyd wedi treulio cyfnodau’n gweithio i Sheffield United a Notts County.
Cafodd e yrfa’n chwarae pêl-droed hefyd, gan gynnwys dros 100 o gemau i Huddersfield, ac fe chwaraeodd e i glybiau Scunthorpe (ar fenthyg) a Sheffield United.
Mae ganddo fe gefndir ym maes hamdden ac ar ôl graddio o Brifysgol Sheffield Hallam, aeth yn ei flaen i fod yn gyfarwyddwr cymunedol gyda Grimsby, Sheffield Wednesday a Watford.
Datganiad yr Elyrch a’r prif weithredwr
“Rydym yn falch o groesawu Julian fel prif swyddog gweithredol newydd y clwb,” meddai perchnogion Clwb Pêl-droed Abertawe mewn datganiad.
“Fel rhan o’r broses benodi, fe wnaethon ni dderbyn mewnbwn positif sylweddol gan nifer o fewn y clwb a’r sawl sydd wedi cydweithio â fe yn ei glybiau blaenorol.
“Bydd ei brofiad helaeth yn y diwydiant a’i arddull o gyd-arwain yn ychwanegiad gwerthfawr wrth i ni ddechrau ar y bennod newydd hon.”
Mae Julian Winter yn dweud ei fod e wrth ei fodd.
“Dw i’n edrych ymlaen at gael dechrau gyda’r clwb o ddydd i ddydd, a chyfarfod â’r staff ar draws y clwb a helpu i arwain Abertawe i ddyfodol llwyddiannus ar y cae ac oddi arno.”