Mae Stephen Hendry, cyn-bencampwr y byd snwcer, yn dychwelyd i’r gêm ar ôl ymddeol wyth mlynedd yn ôl.

Bydd yr Albanwr 51 oed yn cystadlu am o leiaf ddau dymor.

Fe wnaeth e ymddeol yn 2012 ar ôl colli yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd.

Enillodd e Bencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf yn 1990, gan fynd yn ei flaen i’w hennill chwe gwaith yn rhagor o fewn degawd.

Mae’n dweud iddo gael ei gyffroi o gael y cyfle i ddychwelyd i’r llwyfan mawr.

“Dw i wir wedi mwynhau codi’r ciw eto’n ddiweddar ym Mhencampwriaeth Chwaraewyr Hŷn y Byd ac ar ôl peth hyfforddiant, dw i’n teimlo ychydig yn fwy hyderus yn fy ngêm,” meddai.

“Dw i bob amser wedi gweld eisiau’r wefr o gystadlu ac er nad oes gyda fi ddisgwyliadau yn nhermau perfformiad, roedd hyn yn teimlo fel amser da i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddychwelyd i’r bwrdd.”

Croesawu’r penderfyniad

“Dw i wrth fy modd fod Stephen wedi penderfynu dychwelyd i’r daith,” meddai Barry Hearn, cadeirydd Snwcer y Byd.

“Mae e’n gawr yn y gamp a dw i’n gwybod y bydd llygaid pawb arno fe bob tro bydd e’n dod i’r bwrdd yn y misoedd i ddod.

“Mae’n wych cael gwybod fod tân cystadleuol Stephen yn dal i losgi ac o ystyried ei gyflawniadau eithriadol, roedd yn benderfyniad amlwg i gynnig y cyfle iddo fe ddychwelyd.

“Dw i’n dymuno’r gorau i Stephen ar gyfer y ddau dymor i ddod.”