Mae Ben Cabango, amddiffynnwr canol Abertawe, yn dweud ei fod e’n “gwireddu breuddwyd” wrth ymuno â charfan bêl-droed Cymru yr wythnos hon.

Bydd y tîm yn herio’r Ffindir oddi cartref nos yfory (nos Iau, Medi 3) cyn croesawu Bwlgaria i Gaerdydd dridiau’n ddiweddarach (dydd Sul, Medi 6).

Mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd yn chwarae’n gyson i’r Elyrch ochr yn ochr â Joe Rodon erbyn hyn, ar ôl chwarae am y tro cyntaf fis Tachwedd y llynedd.

Ac mae e ar fin camu i fyny eto i’r llwyfan rhyngwladol.

Y person cyntaf y gwnaeth e gyfarfod â fe yng ngwesty’r garfan oedd Gareth Bale.

“Yn syth wnes i gerdded i mewn, roedd Gareth yno’n eistedd ar y soffa,” meddai.

“Roedd yn swreal cael dod i’w nabod e’n syth.

“Ond mae’n foi diymhongar ac mae’r tîm i gyd wedi rhoi croeso cynnes i fi.

“Mae wedi bod yn rhyfedd gyda’r holl gyfyngiadau Covid oherwydd mae’n rhaid i ni ynysu yn ein stafelloedd.

“Maen nhw wedi bod yn amgylchiadau anodd ond dw i wedi trio ‘ngorau i ddod i nabod y bois.

“Mae wedi bod yn swreal cael bod ymhlith y chwaraewyr hyn, ond dw i’n gwireddu breuddwyd wrth gael fy ngalw i fyny gan Gymru.”

Gyrfa hyd yn hyn

Dechreuodd Ben Cabango ar lefel leol yng Nghaerdydd cyn ymuno ag Academi Casnewydd ac yna ag Abertawe.

Yn 18 oed, ymunodd e ar fenthyg â’r Seintiau Newydd a chwarae a sgorio yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae’n dweud bod y profiad wedi ei helpu i “aeddfedu fel person a chwaraewr ar y cae”.

“Do’n i ddim wir yn gwybod am y clwb ond roedd pwysau yno i ennill y gynghrair, ac ro’n i’n credu taw chwarae yn erbyn dynion oedd y ffordd orau o ddatblygu fy ngêm.

“Unwaith wnaeth y chwe mis ar fenthyg ddod i ben, des i nôl i Abertawe ac ro’n i’n well chwaraewr.

“Fe welodd y bos [Steve Cooper] hynny ynof fi’n syth a rhoi’r cyfle hwnnw i fi.

“Fe wnes i ei gymryd a dw i wedi bod yn gweithio’n galed ers hynny.”

Rygbi

A’i frawd Theo yn aelod o Academi Rygbi’r Gleision, fe allai Ben Cabango fod wedi ei ddilyn i’r byd hwnnw hefyd, a’r ddau yn chwarae tra roedden nhw’n ddisgyblion yng Nghaerdydd.

“Fe es i mewn i Ysgolion Caerdydd yn wythwr ac fe wnes i chwarae tan flwyddyn naw,” meddai.

“Ond dyna ni.

“Roedd fy mhêl-droed bob amser yn well… a gyda maint y chwaraewyr nawr, dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n hoffi chwarae rygbi!

“Dw i wedi gwisgo’r bathodyn ers y tîm dan 15, a gobeithio y caf fi’r teimlad hwnnw nawr gyda’r tîm cyntaf.”