Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid, Steve Phillips, yn cael ei benodi fel Prif Weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru pan fydd Martyn Phillips yn gadael y swydd ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Hydref 18.
Bydd Steve Phillips yn cymryd y cyfrifoldeb am weithredoedd dydd i ddydd yr Undeb o Fedi 14 ymlaen.
Steve Phillips sydd wedi bod yn gyfrifol am reoli effaith ariannol pandemig y coronaferiws ar rygbi Cymru yn ogystal â chynrychioli Undeb Rygbi Cymru mewn trafodaethau gyda’r CVC ynghylch buddsoddi yn y Pro14.
“Rwyf yn falch iawn i gyhoeddi bod Steve wedi cael ei benodi [fel Prif Weithredwr],” meddai Cadeirydd yr Undeb Gareth Davies.
Dywedodd Steve Philips: “Mae hi’n bleser ac anrhydedd cymryd y rôl hon ac rwyf yn hynod hyderus am ddyfodol rygbi Cymru.
“Heb os, mae yno amseroedd caled o’n blaenau ond gyda’r cynllunio a’r strategaeth gywir bydd rygbi Cymru yn y sefyllfa orau posib nid yn unig y barhau i adeiladu cynaliadwyedd ond i ffynnu er gwaethaf y sialensiau rydym yn eu hwynebu.”