Tarodd Tom Abell 74 heb fod allan a chipiodd Ben Green bedair wiced am 26 mewn pedair pelawd wrth i Wlad yr Haf guro Morgannwg o wyth wiced yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Taunton heno (nos Fawrth, Medi 1).

Dyma oedd trydedd gêm Green yn y gystadleuaeth, ac fe wnaeth e helpu ei dîm i gyfyngu Morgannwg i sgôr o 133 am wyth.

Cafodd e gymorth gan Josh Davey, a gipiodd ddwy wiced am 17.

Cyrhaeddodd y Saeson y nod o 134 mewn 16.1 o belawdau diolch i’r capten Abell a James Hildreth (34 heb fod allan).

Batio gwael eto

Parhau wnaeth perfformiadau gwael Morgannwg gyda’r bat, wrth i Dan Douthwaite golli ei wiced heb sgorio wrth i’r troellwr coes Max Waller daro coes y batiwr gyda gwgli o flaen y wiced gyda’i ail belen.

Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd Morgannwg wedi llithro i 39 am dair, wrth i Andrew Balbirnie (17) gam-ergydio a rhoi daliad syml i Green oddi ar fowlio Ollie Sale, a chafodd Billy Root ei ddal gan Green yn y cyfar oddi ar fowlio Josh Davey.

Fe wnaeth Chris Cooke geisio achub y sefyllfa i’w dîm gyda chyfres o ergydion am chwech ond chafodd e fawr o gefnogaeth y pen arall i’r llain.

Cafodd Kiran Carlson ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Waller am bump, ac roedd Morgannwg yn 62 am bedair erbyn hanner ffordd trwy’r batiad.

Ychwanegodd Cooke a Callum Taylor 26, gan gynnwys 11 oddi ar belawd Waller, ond buan y dychwelodd Taylor i’r cwtsh ar ôl cam-ergydio at James Hildreth oddi ar fowlio Green am 12.

Cooke oedd y batiwr nesaf allan, wedi’i ddal yn y cyfar gan Abell oddi ar fowlio Green yn y bymthegfed pelawd – erbyn hynny, roedd e wedi sgorio 42 oddi ar 34 o belenni i sichrau parchusrwydd.

Cafodd Andrew Salter ei ddal ar y ffin ochr agored wrth yrru’n syth at Davey oddi ar fowlio Green, a Morgannwg erbyn hynny’n 90 am saith.

Tarodd Marchant de Lange sawl ergyd addawol ond roedd hi’n rhy hwyr i’r sir Gymreig.

Cwrso’n ddi-drafferth

Er i Wlad yr Haf golli George Bartlett, wedi’i ddal gan Balbirnie oddi ar fowlio Salter, a Steven Davies, wedi’i ddal gan Taylor oddi ar fowlio Timm van der Gugten, roedden nhw’n edrych yn gyfforddus ar 47 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Doedd dim angen i Hildreth ac Abell gymryd risg ac erbyn hanner ffordd, roedden nhw eisoes yn 81 am ddwy, a’r gyfradd oedd ei hangen erbyn hynny oedd 5.3 rhediad y belawd.

Cyrhaeddodd Abell ei hanner canred oddi ar 30 o belenni gydag ergyd sgwâr am bedwar drwy’r ochr agored.

Parhau’n amyneddgar wnaeth Hildreth ac fe gyrhaedodd Gwlad yr Haf y nod gyda 23 o belenni’n weddill.

Wynebodd Abell 45 o belenni, gan daro naw pedwar ac un chwech, tra bod Hildreth wedi wynebu 36 o belenni.

‘Ddim yn ddigon dewr efo’r bat’

“Doedden ni ddim yn ddigon dewr efo’r bat,” meddai Matthew Maynard, sy’n dweud y bydd newidiadau yn y tîm ar gyfer y gêm nesaf.

“Roedd hi’n ymdrech lawn ofn ac mi oeddan ni ryw 60 o rediadau’n brin o sgôr buddugol ar yr hyn oedd yn llain dda.

“Mae’r chwaraewyr yn rhoi cryn ergyd i’r bêl yn y rhwydi ond yn ymddangos yn ansicr yn y canol.

“Mae hynny wedi bod yn nodwedd o’n perfformiadau ni hyd yn hyn, ac mi fydd yna newidiadau.

“Os na allwn ni ddod o hyd i’r ateb o fewn ein rhengoedd ein hunain, mae’n bosib y bydd rhaid i ni edrych i weld pwy sydd ar gael ar fenthyg.

“Mae’r capten [Chris Cooke] wedi bod yn chwarae’n dda iawn ond doedd o ddim hyd yn oed yn medru ein cael ni allan o drafferth heno.”