Mae Trevor Birch, cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi cyhoeddi ei ymadawiad.

Cafodd ei benodi fis Ebrill y llynedd yn olynydd i Huw Jenkins.

Mae disgwyl iddo ymuno â chlwb yn Uwch Gynghrair Lloegr yn y dyfodol agos.

“Dw i’n gadael Abertawe â chalon drom,” meddai mewn datganiad.

“Fe wnes i gyrraedd y clwb ar adeg anodd iawn ond gobeithio fy mod i wedi cynnig proffesiynoldeb, sefydlogrwydd a seiliau cadarn yn fewn a fydd yn rhoi’r clwb mewn sefyllfa gref wrth symud ymlaen.”

Mae wedi talu teyrnged i Steve Cooper, y chwaraewyr a’r cefnogwyr.

Ymateb y clwb

“Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda Trevor, ac rydym yn deall yn ystod y cyfnod di-gynsail hwn y dymuniad i fod yn nes at adref a’r teulu yn Llundain,” meddai perchnogion y clwb mewn datganiad.

“Bydd colled ar ôl Trevor, a hoffem ddiolch iddo am ei waith ar ran y clwb dros y 17 mis diwethaf.”

Fe fu’n atebol i’r Americanwyr Jason Levien a Steve Kaplan yn ystod y cyfnod hwnnw, gan geisio mynd i’r afael â sefyllfa ariannol y clwb yn dilyn y gwymp i’r Bencampwriaeth.

Mae e wedi gweithio i sawl un o’r clybiau mawr, gan gynnwys Lerpwl, Chelsea ac Everton, yn ogystal â Leeds, Derby a Sheffield United.

Cyrhaeddodd y clwb y gemau ail gyfle ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl iddo benodi Steve Cooper yn rheolwr i olynu Graham Potter ar ddechrau’r tymor.

Cafodd Andy Scott ei benodi ganddo fe i ofalu am broses recriwtio chwaraewyr y clwb, ac fe gafodd ei ganmol yn aml am gyfathrebu â’r cefnogwyr.

Mae’r clwb wedi dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.