Mae disgwyl i Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, dderbyn argymhellion dau adroddiad sy’n galw am ddileu arholiadau TGAU a’r mwyafrif o arholiadau Safon Uwch.
Mewn cyfweliad â’r Sunday Times, dywedodd Kirsty Williams y bydd myfyrwyr TGAU yn cael eu hasesu ar “waith dosbarth, gwaith cwrs neu asesiadau rheoledig”.
Daw hyn ar ôl i Gymwysterau Cymru argymell y dylai myfyrwyr barhau i sefyll arholiadau Lefel A (Safon Uwch) yn yr haf ond fe ddylai myfyrwyr TGAU a Lefel AS gael eu hasesu yn wahanol.
Fodd bynnag mae adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn argymell na ddylai unrhyw fyfyrwyr sefyll arholiadau’r flwyddyn nesaf ac y dylai graddau cael eu cyflwyno ar sail asesiadau yn yr ysgolion a cholegau.
Fe fu beirniadaeth o’r modd y cafodd yr arholiadau eleni eu canslo oherwydd y cyfnod clo.
Roedd bwriad i roi graddau’n seiliedig ar system ddadleuol cyn i hynny gael ei ddisodli gan asesiadau athrawon.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi unrhyw newidiadau yn swyddogol ddydd Mawrth, Tachwedd 10.
Eglurder
Mae undeb athrawon UCAC wedi croesawu’r penderfyniad ond yn dweud bod angen eglurder am y broses asesu.
“Byddem yn croesawu unrhyw ganslo arholiadau a symud yn gyflym i roi trefniadau amgen ar waith a fydd, yn ôl pob tebyg, yn gyfuniad o asesiad athrawon a rhyw fath o farcio neu gymedroli allanol,” meddai Rebecca Williams o UCAC wrth BBC Cymru.
“Yr hyn nad ydym am ei wneud yw gwastraffu llawer o amser yn gweithio ar y trefniadau hynny.
“Mae angen i bopeth gael ei benderfynu a bod yn eglur cyn gynted â phosibl.”
Y sefyllfa yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr:
- Mae’r Alban eisoes wedi cyhoeddi y bydd cymwysterau yn cael eu hasesu ar waith cwrs yn hytrach nag arholiadau.
- Yng Ngogledd Iwerddon, bydd arholiadau Safon Uwch a TGAU yn parhau, ond yn dechrau wythnos yn ddiweddarach.
- Mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd arholiadau yn cael eu canslo’n llwyr yn Lloegr.