Mae tân mawr ar ystâd ddiwydiannol yng Nghaerdydd bellach dan reolaeth.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y tân ar Ffordd Seawall, yn ardal Sblot yn y brifddinas, wedi dechrau tua 6:15yh Ddydd Sul, Tachwedd 8.

Ar ôl i nifer o deiars gael eu rhoi ar dân bu’r Gwasanaeth Tân yn brwydro’r fflamau drwy gydol y nos.

Bu’n rhaid i Heddlu De Cymru gau ffyrdd yn yr ardal, ac roedd pobol sy’n yn byw gerllaw yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a’u drysau ynghau.

Dydy’r gwasanaeth tân heb gadarnhau a gafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.