Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau achos positif o’r coronafeirws yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth.

Gofynnwyd i ddisgyblion o un Grŵp Dosbarth Blwyddyn 7 i hunan ynysu am gyfnod o 14 diwrnod, i leihau lledaeniad o’r feirws.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mai dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan ynysu, o ganlyniad i’r “gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith” yn yr ysgol

Mae’r Ysgol wedi cysylltu gyda’r rhieni, sydd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.

Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i fynd a’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein yma neu drwy ffonio 119.