Mae dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Llanymynech ym Mhowys.

Digwyddodd y gwrthdrawiad brynhawn dydd Gwener (Tachwedd 6) ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Roedd y ddynes 63 oed yn cerdded ar hyd y B4398, yng Ngharreghofa, i’r de o bentref Llanymynech tua 3.30pm ddydd Gwener pan fu mewn gwrthdrawiad a char BMW X1.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad a dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.