Mae cwmni fferyllol Pfizer wedi cyhoeddi bod eu brechlyn coronafeirws wedi profi’n fwy na 90% yn effeithiol wrth geisio atal Covid-19.
Dywed y cwmni, sy’n datblygu’r brechlyn gyda chwmni o’r Almaen BioNTech, bod eu canlyniadau cychwynnol yn dilyn profion annibynnol o’u hastudiaeth glinigol.
Yn ôl cadeirydd Pfizer, Dr Albert Bourla, mae “heddiw’n ddiwrnod arbennig iawn i wyddoniaeth a’r ddynoliaeth.”
“Carreg filltir”
“Ry’n ni’n cyrraedd y garreg filltir yma yn ein rhaglen i ddatblygu brechlyn mewn cyfnod pan mae’r byd ei angen fwyaf gydag achosion yn parhau i gynyddu, ysbytai bron yn llawn ac economïau’n cael trafferth ail-gychwyn,” meddai Dr Albert Bourla gan ychwanegu eu bod “gam sylweddol ymlaen” i ddarparu brechlyn i bobl ar draws y byd.
Aeth ymlaen i ddweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth, yn sgil profion ar filoedd o bobl sydd wedi cymryd rhan yn y treialon, yn yr wythnosau nesaf.
Mae’r brechlyn wedi cael ei brofi ar 43,500 o bobl mewn chwe gwlad a does dim pryderon diogelwch wedi codi yn ystod y cyfnod yma.
Mae Pfizer yn bwriadu gwneud cais i’r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) yn yr Unol Daleithiau, er mwyn cael yr hawl i ddefnyddio’r brechlyn erbyn diwedd y mis.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gynnal cynhadledd i’r wasg yn Downing Street am 5pm heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 9).
Dywedodd yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ei fod yn “newyddion calongol iawn” ac mae Mynegai’r 100 Cwmni (FTSE) wedi codi mwy na 5.5% yn dilyn cyhoeddiad Pfizer – y diwrnod gorau ers mis Mawrth.
Croeso gofalus
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi croesawu’r datblygiad ond rhybuddiodd nad yw’n golygu “bod datrysiad ar y gorwel”.
“Mae’n newyddion da wrth gwrs, unrhyw ddatblygiad fel hyn i’w groesawu”, meddai’r Prif Weinidog yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun (Tachwedd 9).
“Dydw i ddim yn mynd i gael fy nhemtio i awgrymu bod hyn rywsut yn golygu bod datrysiad ar y gorwel a bod y coronafeirws ar fin diflannu o’n bywydau. Mae angen i ni weld faint mae’r brechlyn yn amddiffyn pobol ac am ba hyd.”