Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau fod dros 2,000 o bobol bellach wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.
Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo gyda phob un o’r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio.
“Mae hwn yn firws gwirioneddol ofnadwy, y bobol sydd fwyaf agored i niwed sy’n cael eu taro galetaf,” meddai’r Prif Weinidog yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun (Tachwedd 9).
“Mae pobol yn marw cyn eu hamser, mae teuluoedd yn colli rhieni, plant, brodyr a chwiorydd – mae creulondeb y coronafeirws i’w deimlo o hyd.
“Heddiw rwyf am ddiolch i bawb am eu gwaith caled yn ystod y clo.
“Doedd neb eisiau gweld cyfnod clo arall, a dydy’r cyfnod yma heb fod yn hawdd i neb, ond mae wedi rhoi cyfle i ni weithio ar nifer o bethau pwysig eraill.
“Ond os ydyn ni’n mynd i atal y feirws yma, nid y rheolau fydd yn gwneud y gwahaniaeth.
“Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar sut mae pob un ohonom yn ymddwyn o hyn allan.
“Mae hyn yn golygu na allwn ni fynd yn ôl i’r arfer.”
Arwyddion cynnar yn ‘cynnig gobaith’
Yn ôl Llywodraeth Cymru gall gymryd hyd at dair wythnos nes bydd Cymru’n gweld gostyngiad mewn achosion cyffredinol o ganlyniad i’r clo dros dro.
Er hyn eglurodd Mark Drakeford ford arwyddion cynnar yn “cynnig gobaith.”
Mae’r nifer o achosion i bob 100,000 wedi cwympo o 250 i 220.
Mae mwy na 1,400 o achosion sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru – ffigwr sydd bellach yn uwch na’r brig cyntaf ym mis Ebrill.
- Darllenwh fwy am y gynhadledd coronafeirws heddiw yma.