Mae TUC Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gydag undebau i wella cyflogau ac amodau gweithwyr yng Nghymru.

Nid yw’n iawn fod cynifer o weithwyr yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd bwydo eu teuluoedd, meddai’r undeb.

Dangosodd ffigurau’r Sefydliad Cyflog Byw gafodd eu rhyddhau heddiw (dydd Llun, Tachwedd 9), bod 22% o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn.

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj: “Dylai pobl sy’n gweithio ennill bywoliaeth dda.

“Yma yng Nghymru, mae llawer o’r gweithwyr sy’n ein helpu drwy’r argyfwng hwn – fel gofalwyr, staff archfarchnadoedd a gyrwyr cyflenwi – yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn.

“Nid yw’n iawn fod cynifer o’n gweithwyr yn ei chael hi’n anodd talu eu rhent a’u biliau a bwydo eu teuluoedd.

“Addawodd y Prif Weinidog i ddod a chysondeb i wledydd Prydain. Rhaid i Lywodraeth y DU ddechrau drwy weithio gydag undebau i gysoni cyflogau ac amodau ledled y DU.”

Ymdrechu i leihau cyflogau isel

“Yma yng Nghymru, rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â thâl isel drwy ein hagenda gwaith teg,” meddai Shavanah Taj.

“Mae ein fforwm gofal cymdeithasol, a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, yn enghraifft o’n hymdrechion i fynd i’r afael a chyflogau isel yn y sector gofal annibynnol.

“Rydym wedi ymrwymo i wneud cynnydd tebyg ar draws pob sector yng Nghymru.”