Mae BBC Wales Investigates wedi canfod y gallai miloedd o bobol yng Nghymru farw o ganser oherwydd oedi sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.
Mae’r rhaglen – BBC Wales Investigates: The Hidden Cost of Covid – wedi darganfod rhestrau aros cynyddol o driniaethau a llawdriniaeth canser yn sgil pandemig y coronafeirws.
Gallai’r ffocws ar y coronafeirws gostio miloedd o fywydau yn y pen draw, meddai yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru.
Dywedodd yr Athro Crosby wrth y rhaglen bod “rhai o’r sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda chleifion yn y clinig wedi bod yn heriol iawn.”
Aeth yr Athro Crosby ymlaen i ddweud bod angen cynllun adfer ar frys i allu mynd i’r afael â’r rhestrau aros.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, ei bod yn rhy gynnar i sefydlu cynlluniau i leihau rhestrau aros.
“Mae angen i ni gyrraedd diwedd y pandemig gyda mwy o sicrwydd,” meddai Vaughan Gething.
“Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd yn digwydd drwy weddill y gaeaf.”
Wrth ymateb i alwad y gymuned feddygol am arweiniad cliriach, atebodd Vaughan Gething: “Byddai ceisio cael cynllun pendant ar gyfer sut fydd y sefyllfa ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf yn ffôl.”
“Sgandal cenedlaethol”
Wrth ymateb i’r newyddion gallai cynifer â 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yn GIG Cymru, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies AoS: “Vaughan Gething yw’r gweinidog iechyd yng Nghymru, nid y coronafeirws yn unig, ac yn hytrach na threfnu system i ymdopi, mae wedi rhoi’r ffidil yn y to ac wedi cyfaddef ei fod yn rhoi un cyflwr dros eraill.
“Mae hynny’n sgandal genedlaethol sy’n rhoi miloedd o fywydau mewn perygl.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am weithredu’r mesurau hyn ers yr haf gan ein bod yn credu na all yr iachâd fod yn waeth na’r clefyd.
“Rhaid i weinidog iechyd Llafur fynd i’r afael â’r sefyllfa hon ar unwaith.”