Americanes sy’n byw yn nhalaith Califfornia yw Peggi Rodgers. Graddiodd hi yn y Gymraeg a Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2011. Yma, mae hi’n dweud wrth golwg360 y bydd hi’n falch o weld Donald Trump yn gadael y Tŷ Gwyn a’i bod hi’n obeithiol ar gyfer y dyfodol gyda Joe Biden wrth y llyw.

Allwn i ddim bod yn hapusach am y canlyniad. Dw i wedi casáu Trump ers yn hir cyn iddo ddod yn Arlywydd. Dw i ddim yn hoffi bwlis a’u ffordd o reoli pobol. Mae e wedi dinistrio undod y wlad hon a’n perthnasau, wedi creu diffyg ariannol mawr, wedi gwneud bron dim byd i bobl ac wedi costio ffortiwn i drethdalwyr i’w gynnal e. Yn amlwg, gallwn i fynd ymlaen yn hir cyn dechrau sôn am y person ffiaidd yw e a beth mae e’n cynrychioli.

Ar Dachwedd 7, rhyddhad oedd y teimlad mawr yn y wlad. Er ei fod e a’i gefnogwyr chwerthinllyd yn gwneud ffyliaid ohonyn nhw eu hunain drwy eu hymddygiad plentynnaidd “dw- i’n-mynd-i-stompio-fy-nhraed-achos-dw-i-ddim-wedi-cael-fy-ffordd-fy-hun”, mae nawr yn teimlo bod y wlad ar ei ffordd yn ôl. Yn fy 68 o flynyddoedd, dw i erioed wedi gweld dathliadau tebyg i’r rhai ar ôl y newyddion am yr arweinydd newydd.

Ond mae’r sefyllfa yn y wlad hon yn danllyd – fydd hynny ddim yn newid am sbel. Dw i yn poeni am drais yn erbyn pobol wrth-Trump gan ymgyrchwyr asgell-dde a grwpiau ‘gwladgarol’ eraill unwaith mae Trump wedi rhedeg allan o gamau cyfreithiol a bod rhaid iddo fe dderbyn y ffaith ei fod e wedi colli. Dwi ddim yn teimlo’n anniogel yma lle ydw i, ond efallai y bydd problemau yn y dinasoedd mawr sydd wedi gweld gwrthdaro dros yr haf.

A dw i’n meddwl y bydd gan Biden lot ar ei blât wrth geisio ailuno oherwydd meddylfryd ‘ni a nhw’. Mae Trump wedi treulio pedair blynedd yn gwneud unrhyw un sydd yn ei erbyn (h.y. Democratiaid) yn blant y diafol ac mae ei gefnogwyr yn credu hynny. Mae bygythiadau mawr o drais a ffyliaid arfog yn rhedeg o gwmpas mewn cuddliw yn dal arfau heb boeni am eu defnyddio nhw.

Mae e wedi darbwyllo pobol trwy theorïau cynllwyn gwyllt ein bod ni eisiau mynd ar ei ôl e ac y bydd Democratiaid yn dwyn eu bywydau nhw ac yn gwneud sawl peth ffiaidd. Ac mae ei seneddwyr a chynrychiolwyr yn y Gyngres hefyd yn annog hyn. Er enghraifft, fe wnes i ddigwydd gweld hysbyseb gan seneddwr Gweriniaethol lleol yn sefyll eto yn yr etholiad. Ar y diwedd, dywedodd yr adroddwr (Do! Dywedodd e hyn!): “Maen nhw’n dod i fynd â’n dŵr oddi wrthon ni, ein cartrefi, ein cymunedau a’n ffordd o fyw.” Gallech chi feddwl ein bod ni’n fyddin oresgynnol ac nid yn gyd-drigolion â barn wahanol!

Roedd yn galonogol gweld bod y mwyafrif o bobol yn cydweld â fi, fod y wlad hon ar ei ffordd i lawr pe bai e wedi aros mewn grym a fyddai dim byd da wedi dod o hynny. Mae’n galonogol meddwl y bydd y gyfraith a’r Cyfansoddiad yn cael eu parchu unwaith eto oherwydd mae’r pethau hynny wedi diflannu gyda’r weinyddiaeth hon. A mae cwrteisi ac urddas wedi mynd hefyd. Dw i wedi gofyn droeon i’r ‘Cristnogion’ sy’n ei gefnogi fe: “Ydych chi’n meddwl y byddai’r Iesu wedi trin pobol yn yr un ffordd â Trump?” Dydyn nhw byth yn ateb.

Gobaith ar gyfer y dyfodol

Er, dw i’n dal yn gobeithio y gallwn ni symud ymlaen a chael bywyd normal yn ôl. Ond dw i’n ofni bod bron i 50% o bobol yn y wlad hon yn dal i gefnogi ac wedi pleidleisio dros y dyn hwn. 70 miliwn o bobol! Mae hynny’n fy synnu. Ro’n i’n disgwyl llawer llai. Mae’n frawychus meddwl bod cynifer o bobol mor anwybodus neu’n anwybyddu popeth sy’n digwydd. Yn amlwg, mae hynny’n dweud wrthym fod problemau cymdeithasol difrifol yn America a bod angen dod o hyd iddyn nhw a’u datrys.

Beth nesaf i America? Dw i ddim yn genfigennus o’r gwaith sydd gan Biden. Mae e wedi etifeddu llanast ac mae pobol eisiau iddo fe drwsio popeth – mae hynny’n llawer o bwysau! A gyda’r wrthblaid yn dal yn rheoli’r Senedd a’r dihiryn Mitch McConnell yn bennaeth arnyn nhw i gyd, mae’n mynd i fod yn anodd iawn iddo fe wneud unrhyw beth. Fel y gwnaeth McConnell i Obama, bydd e’n gwrthod pasio unrhyw beth mae Biden yn cyflwyno, dim ots os yw e’n helpu pobol y wlad neu beidio. Mae e’n poeni dim am bobol America mae e’n honni ei fod e’n eu gwasanaethu.

Ond os gall unrhyw un ei wneud e, Biden yw hwnnw. Mae ganddo fe enw da am allu croesi ffiniau pleidiol a chael cydweithrediad o bob ochr. Ac mae ganddo fe flynyddoedd o brofiad o wneud hynny. Am y rheswm hwnnw yn unig, dw i’n credu ei fod e’n ddewis da am y brif swydd.

Un peth pwysig i fi a’r bobol oedd wedi pleidleisio drosto fe yw ailsefydlu perthnasau tramor a dod yn rhan o’r gymuned fyd-eang eto. Mae Biden wedi dweud y bydd e’n dechrau trwy ailsefydlu’r perthnasau hynny ac aelodaeth o’r cymunedau hynny a chyflwyno llawer iawn o orchmynion er mwyn gwyrdroi beth mae Trump wedi’i wneud. Mewn geiriau eraill, gwyrdroi’r patrwm o ynysu wnaeth Trump ei sefydlu a’n helpu ni i fynd ar y trywydd iawn o ran yr amgylchedd.

Cryfderau a gwendidau Joe Biden

Dw i’n credu y bydd Biden yn Arlywydd da. Fy unig bryder amdano fe, a dw i’n gwybod fod pobol eraill wedi dweud hyn hefyd, yw ei oedran. Mae’n biti nad yw pobol iau yn gallu cael eu hethol oherwydd byddai’n braf iawn cael rhywun ifanc yn y swydd. Ro’n i’n meddwl bod Obama yn oedran da.

Dim ots. Mae’r pryderon am ei oedran yn llai pwysig oherwydd ei ddewis o ddirprwy. Mae Kamala Harris yn wych. Mae hi’n hoffus, yn gryf ac yn brofiadol. Gall nifer ohonom ei gweld hi’n hawdd iawn yn dod yn Arlywydd, felly mae gwybod ei bod hi yno pe bai rhywbeth yn digwydd i Biden yn galonogol. Mewn gwirionedd, dw i’n credu y byddai hi wedi bod yn Arlywydd gwych ond mae’n siŵr nad yw’r wlad yn barod am Arlywydd benywaidd eto.

Yn olaf, rhaid dweud rhywbeth am y ‘First Lady’ a gwraig yr Arlywydd, Jill Biden. Fel Kamala, mae hi’n hoffus, yn wybodus ac yn allblyg. Addysgwr yw hi sydd wedi treulio’i hoes yn dysgu a bydd hi’n dod â gofal i’r Tŷ Gwyn. Efallai nad yw’r ‘First Lady’ yn ymddangos yn swydd bwysig, ond mae hi yn bwysig. Dydy pobol ddim yn hoffi Melania [Trump], dydy hi ddim yn hoffus ac yn wir, does neb yn ei gweld hi’n aml iawn. Mae pobol yn gwerthfawrogi gallu gweld y ‘First Lady’ a’i bod hi’n cymryd rhan, yn yr un modd â’r Arlywydd. Dyna beth oedd yn gwneud Barack a Michelle Obama yn ddeuawd deinamig; roedden nhw’n ymddwyn ac yn ymddangos yn un o’r bobol ac roedd pobol yn teimlo eu bod nhw’n union fel ni. Roedden ni’n teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’u henwau cyntaf ac yn meddwl amdanyn nhw fel ffrindiau. Rydym yn edrych ymlaen at hynny unwaith eto gyda Joe a Jill Biden.