Mae myfyrwyr yng Nghymru wedi sôn wrth golwg360 am eu rhyddhad yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i alluogi iddynt dreulio’r Nadolig a’u teuluoedd.
Ar ôl cychwyn digon dyrys i’w blwyddyn academaidd, cafodd y newyddion ei gresawu gan fyfyrwyr sydd heb weld eu teuluoedd ers sawl mis bellach.
“Roeddwn i wir yn poeni am y peth”
“Dwi’n meddwl bod o’n syniad da iawn,” meddai Ceri-Ellen, sy’n astudio cwrs perfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.
“Roeddwn i wir yn poeni am y peth ac i fod yn onest do’n ni ddim yn meddwl fysa ni’n cael mynd adref dros y Nadolig o’ gwbl.”
Hwn fydd y cyfle cyntaf iddi gael dychwelyd adref i Fethesda, ers sawl mis.
“Mae o ddigon anodd fel ma’i rŵan,” meddai, “peidio cael gweld fy nheulu ers naw wythnos.”
“Ond mi fysa peidio treulio’r Nadolig adref wedi bod yn anodd iawn i mi a dwi methu disgwyl i gael gwario pob munud o’r amser hefo nhw.”
“Cyfle i ddod ag ychydig o oleuni”
“Dwi’n meddwl fod pawb yn cytuno gyda’r ffaith ein bod ni ‘di cael ein herio eleni ac ein bod ni wedi sylweddoli mwy nag erioed, pa mor bwysig ydi teulu,” meddai Beca Nia, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae treulio’r Nadolig gyda theulu yn rhywbeth mae pawb yn eu haeddu ar ôl y flwyddyn anodd hon!”
Yn astudio yn ei blwyddyn gyntaf, dywedodd bod treulio cyfnod sylweddol o amser ar wahân i’w theulu wedi bod yn heriol iawn iddi, a’i bod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny.
“Mae bob dim wedi bod mor dywyll ag mae’r Nadolig yn adeg mor olau. Mae ganddo ni oleuadau tu allan, ac ar y goeden ac mi fydd o’n gyfle i ddod ag ychydig o oleuni ar ôl y flwyddyn dywyll hon.”
“Gadael digon o amser i bobl sy’n profi’n bositif”
“Mae’r penderfyniad yma yn ddigon teg,” meddai Sam Myrddin o Gaernarfon, sydd hefyd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Cyn belled â’u bod yn gadael digon o amser i bobl sy’n profi’n bositif i hunanynysu ac i wella i gael mynd adref”, meddai.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cyswllt wyneb-yn-wyneb o fewn Prifysgolion yn dod i ben ddechrau fis Rhagfyr, fel bod modd i unrhyw un sydd â phrawf positif allu hunanynysu a gwella, cyn teithio adref am y Nadolig.
Yn astudio ym maes iechyd meddwl, dywedodd Sam Myrddin y byddai atal myfyrwyr rhag dychwelyd adref dros y Nadolig wedi bod yn niweidiol i’w hiechyd meddwl.
“Fyswn i ddim yn licio peidio gallu treulio’r Nadolig o adref o’ gwbl – dyna ydi ‘dolig,” meddai.
“Dwi isio gweld fy nheulu a fy ffrindiau.”
“… a dwi wrth fy modd hefo pubs Gaernarfon hefyd!”