Mae 28 o’r marwolaethau diweddaraf o’r coronfeirws yng Nghymru yn gysylltiedig â chroniad o achosion yn ysbytai Cwm Taf Morgannwg.
O’r 28 marwolaeth, mae 18 wedi’u cofnodi yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae cyfanswm o 127 marwolaeth wedi’u cofnodi ym mhedair o ysbytai’r Bwrdd Iechyd dros y mis diwethaf.
40 yw’r ffigur yn Ysbyty Tywysoges Cymru; 56 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant; 25 yn Ysbyty Tywysog Siarl; a chwech yn Ysbyty Maesteg.
Cyfradd “pryderus o uchel”
“Wrth i ni ddod allan o’r clo dros dro yng Nghymru, mae’r gyfradd heintio covid-19 yn ein cymunedau yn parhau’n bryderus o uchel,” meddai’r Cyfarwyddwr Meddygol y Bwrdd Iechyd, Dr Nick Lyons.
“Bob dydd mae mwy o gleifion covid yn cael eu derbyn i’n hysbytai aciwt – ac mae’r rheiny eisoes yn brysur iawn yr adeg yma o’r flwyddyn.
“Plîs meddyliwch yn ofalus am eich gweithredoedd, a chydymffurfiwch â’r cyfyngiadau sydd yn dal mewn grym.”
Mae cyfanswm o 531 achos o covid wedi’u cofnodi yn ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.