Mae cynghorydd i Boris Johnson wedi dweud y dylai adroddiad ar honiadau bod yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi bwlio cydweithwyr gael ei gyhoeddi.

Rhybuddiodd yr Arglwydd Evans o Weardale, cyn-bennaeth MI5 sydd bellach yn gynghorydd ar safonau bywyd cyhoeddus, wrth y Times fod y Llywodraeth mewn perygl o danseilo ffydd y cyhoedd wrth beidio cyhoeddi’r adroddiad.

Lansiwyd ymchwiliad gan Swyddfa’r Cabinet ym mis Mawrth i honiadau bod Priti Patel wedi bychanu cydweithwyr ac yn gwrthdaro gydag uwch swyddogion mewn tair adran wahanol.

Camodd Syr Philip Rutnam, ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Gartref, i’r neilltu yn gynharach eleni, gan gyhuddo’r gweinidog o “ymgyrch filain” yn ei erbyn.

A daeth rhagor o gyhuddiadau yn erbyn Priti Patel, gyda un o uwch swyddogion yr adran ddisgrifio “tswnami” o honiadau.

Dywedodd Priti Patel fod yr honiadau yn “ffals”.

Dywedodd yr Arglwydd Evans wrth y papur newydd: “Mae Swyddfa’r Cabinet wedi gwneud rhyw fath o ymchwiliad. Nid yw wedi’i gyhoeddi felly mae’n anodd iawn gwybod a oedd rhywbeth yma neu ddim.”

“Y broses yn parhau”

Dywedodd pennaeth y Gwasanaeth Sifil, Simon Case, wrth ASau ym mis Hydref mai mater i Boris Johnson oedd dod i gasgliadau a phenderfynu a ddylai’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Wrth ymateb i gwestiynau ar gynnydd araf yr ymchwiliad yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, yr Arglwydd True: “Gofynnodd y Prif Weinidog i Swyddfa’r Cabinet ganfod y ffeithiau yn unol â Chod y Gweinidogion.

“Er mwyn diogelu buddiannau pawb sy’n gysylltiedig, nid yw’r Llywodraeth yn gwneud sylwadau ar fanylion y mathau hyn o brosesau parhaus.

“Bydd y Prif Weinidog yn gwneud unrhyw benderfyniad ar y mater yn gyhoeddus unwaith y bydd y broses wedi dod i ben.”

Cadarnhaodd Downing Street fod y “broses yn parhau”.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Mae proses sefydledig wedi’i nodi yng nghod y Gweinidog ac yn unol â hynny gofynnodd y Prif Weinidog i Swyddfa’r Cabinet sefydlu’r ffeithiau.”