Nid oes disgwyl i drafodaethau cytundeb masnach Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddod i ben gyda chytundeb yr wythnos hon.
Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn Llundain ar gyfer trafodaethau a fydd yn parhau ddydd Iau.
Mae swyddogion ar y ddwy ochr yn besimistaidd ynghylch dod i gytundeb yr wythnos hon, gydag amser yn rhedeg allan i gyrraedd cytundeb.
Yn San Steffan, dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Mae amser yn brin ac o’n rhan ni rydym yn parhau i weithio’n galed iawn i geisio pontio’r bylchau.”
Dywedodd gweinidog tramor Iwerddon, Simon Coveney, ei fod yn disgwyl y byddai trafodaethau’n parhau’r wythnos nesaf, ond nid yw ochrau’r Deyrnas Unedig na’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod hyn yn wir.
Dywedodd un o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd: “Mae’r wythnos nesaf flwyddyn i ffwrdd ym myd Brexit”.
Mae’r Undeb Ewropeaidd am gael cytundeb erbyn canol mis Tachwedd er mwyn iddo allu cael ei gadarnhau erbyn i’r trefniadau pontio ddod i ben a bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr undeb tollau a’r farchnad sengl.
“Mwy tebygol o gael cytundeb na pheidio”
Dywedodd Simon Coveney wrth ddigwyddiad ar-lein a drefnwyd gan y Mudiad Ewropeaidd: “Rwy’n credu ein bod yn fwy tebygol o gael cytundeb na pheidio, ond rwy’n credu bod cytundeb yn annhebygol yr wythnos hon – gobeithio y byddaf yn cael fy mhrofi’n anghywir – rwy’n credu bod y trafodaethau yn debygol o barhau’r wythnos nesaf.
“Ond bryd hynny mae’r amserlenni’n dechrau mynd yn dynn iawn.
Dywedodd fod y dyddiau nesaf yn “hanfodol” ac “os nad oes gennym fargen rywbryd yr wythnos nesaf, rwy’n credu bod gennym broblemau go iawn”.