Bydd profion yn cael eu darparu i fyfyrwyr Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn medru treulio’r Nadolig â’u teuluoedd, fel rhan o gynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi.
Mae’r llywodraethau unigol wedi bod yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer myfyrwyr ym mhrifysgolion gwledydd Prydain.
Daeth cadarnhad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 11).
Bydd myfyrwyr sy’n bwriadu teithio adref am y Nadolig yn derbyn profion ‘llif unffordd’ (lateral flow tests), sef profion sydd yn medru canfod Covid ymhlith pobol nad ydyn nhw’n arddangos symptomau.
A ledled Cymru, mi fydd prifysgolion yn dod â’r rhan fwyaf o wersi ‘wyneb yn wyneb’ i ben erbyn Rhagfyr 8.
Bydd hynny’n galluogi unrhyw un sydd â phrawf positif i hunanynysu am bythefnos cyn teithio adref am Nadolig.
Y cynllun
Bydd myfyrwyr sy’n bwriadu teithio adref ar gyfer y gwyliau yn cael cyfarwyddyd i:
- geisio cyfyngu ar nifer y bobol maen nhw’n cwrdd â nhw’n nes at ddiwedd y tymor
- derbyn prawf ‘llif unffordd’ – 24 awr cyn iddyn nhw deithio, yn ddelfrydol
- Bydd safleoedd profi ar gael mewn rhai prifysgolion o fewn yr wythnosau nesa’
- trefnu eu taith adref fel nad yw hynny’n digwydd dim hwyrach na Rhagfyr 9
- Bydd hyn yn rhoi amser i aildrefnu os bydd yn rhaid hunanynysu
Dilyn y camau
Wrth gyhoeddi’r cynllun, mae Kirsty Williams wedi pwysleisio bod angen i fyfyrwyr gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau sydd wedi’u cyhoeddi.
“Bydd llawer o fyfyrwyr am ddychwelyd adref ar gyfer gwyliau’r Nadolig ac rwy’n falch o gadarnhau’r trefniadau i alluogi hynny,” meddai.
“Ein blaenoriaeth ni, a’r flaenoriaeth i’n prifysgolion, yw galluogi myfyrwyr i deithio adref yn ddiogel ac ar yr un pryd, i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws.
“Mae hefyd yn bwysig bod myfyrwyr yn cymryd camau i leihau’r cyfleoedd lle gallen nhw ddod â’r feirws yn ôl adref a’i drosglwyddo i ffrindiau ac i aelodau’r teulu.
“Dyna pam rydyn ni’n gofyn i fyfyrwyr leihau nifer eu cysylltiadau cymdeithasol wrth iddyn nhw baratoi i deithio adref.”
Mae Kirsty Williams hefyd yn dweud bod y Llywodraeth yn “gweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig” er mwyn sicrhau llwyddiant y cynllun.
Cwestiynau’r gynhadledd
Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr brynhawn heddiw, mi ddatgelodd y gweinidog rywfaint yn rhagor o fanylion am y cynlluniau.
Pan holwyd a fyddai pob un myfyriwr – nid dim ond grŵp ‘blaenoriaeth uchel’ – yn gorfod cael eu profi, dywedodd bod yna obeithion i “gynnig cymaint o brofion ag sy’n bosib”.
Am y tro dywedodd bod y Llywodraeth yn “gofyn i fyfyrwyr aros lle maen nhw ar hyn o bryd”.
Tynnwyd sylw at bryderon ynghylch effeithioldeb y profion ‘llif unffordd’, ond mynnodd Kirsty Williams bod y Llywodraeth yn hyderus amdanyn nhw.
A holwyd a fyddai Llywodraeth Cymru yn annog prifysgolion i gynnig ad-daliad rhent a ffioedd dysgu i fyfyrwyr am eu bod yn gorfod gadael eu hastudiaethau a neuaddau preswyl yn gynt na’r disgwyl.
Dywedodd y gweinidog bod dim cynlluniau o’r fath “ar hyn o bryd”.
“Prif Flaenoriaeth i’r sector” – Ymateb Prifysgolion Cymru
Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Mae rhoi’r cyfle i fyfyrwyr deithio adref ar gyfer y Nadolig wedi bod yn brif flaenoriaeth i’r sector ac rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r cam hwn,” meddai’r Athro Julie Lydon, cadeirydd y corff.
“Mae’r egwyddorion hyn yn cynnig strwythur i brifysgolion gefnogi myfyrwyr i deithio adref tra hefyd yn cydnabod na fydd peth o’r ddarpariaeth, megis lleoliadau, yn symud ar-lein erbyn Rhagfyr 9, gan roi hyblygrwydd i brifysgolion yn yr ystyr yma.
“Mae ein campysau’n dal yn ddiogel, gydag amgylchiadau lle mae pellter cymdeithasol yn cael ei weithredu.
“Yn ogystal â’r dull graddol a gaiff ei amlinellu yn yr egwyddorion, wrth i ni fynd yn nes at y Nadolig, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i barhau i wneud dewisiadau cyfrifol er mwyn gwarchod eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
“Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru ar sut mae technoleg brofi newydd yn gallu cael ei defnyddio i gefnogi myfyrwyr i ddychwelyd adref.
Myfyrwyr sy’n aros ar gampysau
“Mae’n bwysig cofio bod nifer o fyfyrwyr yn byw ger eu prifysgolion yn barhaus ac na fyddan nhw’n teithio adref, ac y bydd eraill yn gwneud y dewis i aros yn eu llety tymhorol dros gyfnod y Nadolig,” meddai’r Athro Lydon.
“Bydd Prifysgolion Cymru yn sicrhau bod amrywiaeth poblogaeth y myfyrwyr yn cael ei chydnabod a bod y rhai sy’n aros ar eu campysau neu yn eu hymyl yn cael eu cefnogi.
“Bydd prifysgolion yn parhau i gydweithio’n agos â myfyrwyr, staff a Llywodraeth Cymru hyd at y Nadolig er mwyn cyflwyno’r mesurau sydd wedi cael eu hamlinellu ac yn cefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n teithio i lety arall y tu allan i’r tymor i wneud hynny mewn modd mor ddiogel â phosib.”
“Dilyn” Lloegr
Mae Suzie Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi cymeradwyo Llywodraeth Cymru am “ddilyn” camau tebyg yn Lloegr.
“Mae’n naturiol bod myfyrwyr eisiau teithio yn ôl ar gyfer y Nadolig, ac felly roedd cyhoeddiad ddoe i brifysgolion Lloegr yn rhyddhad i fyfyrwyr â’u rhieni,” meddai.
“Dw i’n falch gweld bod Cymru yn dilyn hynny, a’u bod yn cyflwyno ynllun tebyg yma gan galonogi myfyrwyr a’u teuluoedd.”
“Newyddion i’w groesawu”
Croesawu’r cynllun wnaeth llefarydd Plaid Cymru dros addysg ôl-16, Helen Mary Jones AoS, gan bwysleisio pwysigrwydd ‘profion asymptomatig’.
“Mae hyn yn sicr yn newyddion i’w groesawu i fyfyrwyr a fydd am fod adref ar gyfer y Nadolig ac i deuluoedd a fydd yn falch o’u gweld yn dychwelyd adref ar ôl tymor anodd.
“Mae profion asymptomatig yn allweddol. Rhaid ei wneud yn effeithlon, yn gyflym ac yn gyffredinol gyda phob prifysgol yn cymryd rhan yn y cynllun i fod yn llwyddiannus.
“Nid yw’n glir eto a fydd pob prifysgol yn cynnig profion.”
Y flwyddyn newydd
Tynnodd Helen Mary Jones sylw hefyd at y myfyrwyr na fydd yn gallu dychwelyd adref, yn ogystal a threfniadau’r flwyddyn newydd.
“Rhaid rhoi cymorth hefyd i’r myfyrwyr hynny na fydd efallai’n gallu mynd adref ar gyfer y Nadolig.
“Fodd bynnag, mae angen cynllun clir ar Gymru nid yn unig ar gyfer caniatáu i fyfyrwyr fynd adref ar gyfer y Nadolig ond hefyd ganllawiau cynhwysfawr ar ddychwelyd i’r brifysgol yn y Flwyddyn Newydd – gan gynnwys sicrhau dysgu o bell a dysgu cyfunol i sicrhau eu diogelwch.”