Mae Extinction Rebellion wedi cynnal protest yn y Cenotaph ar Ddiwrnod y Coffa.

Datgelodd y protestwyr hinsawdd faner yn dweud: “Anrhydeddwch eu haberth, mae newid hinsawdd yn rhyfel” wrth gofeb Whitehall, yng nghanol Llundain.

Ar ôl arddangos y faner, dywedodd cyn-filwr ac aelod o Extinction Rebellion bod yn rhaid “gweithredu nawr”.

Dywedodd Donald Bell, 64, a dreuliodd bedwar cyfnod yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y Troubles: “Mae peidio mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn golygu dychwelyd i ryfel.

“Cymerais gamau heddiw gan wybod y byddwn yn cael fy meirniadu.

“Roeddwn i’n gwybod y byddwn yn cael fy nghyhuddo o fod yn amharchus am siarad fel hyn. Nid yw Diwrnod y Coffa’n amser hawdd i gyn-filwyr ac nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i mi ei wneud.

“Dywedodd cynghorwyr hinsawdd y Llywodraeth ei hun, y pwyllgor newid hinsawdd, y llynedd fod ganddynt ddull ‘Dad’s Army’ o amddiffyn pobol Prydain rhag effeithiau newid hinsawdd.

“Dangosodd eu hadroddiad ym mis Mehefin eleni fod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd pob un ond dwy o’r 31 carreg filltir a osododd ar gyfer lleihau allyriadau.

“Mae’r Llywodraeth hon yn esgeulus a bydd pobl ifanc heddiw yn dioddef o ganlyniad i’w methiannau.”