Mae 19 o ddeddfwyr sydd o blaid democratiaeth Hong Kong wedi ymddiswyddo ar ôl i’r llywodraeth geisio diarddel pedwar ohonyn nhw.
Dywedodd y criw ddydd Llun (Tachwedd 9) y byddai eu hymddiswyddiad yn dangos undod pe bai’r un ohonyn nhw’n gorfod camu o’r neilltu.
Daeth cadarnhad swyddogol o’r ymadawiadau mewn cynhadledd i’r wasg.
Fe ddaw ar ôl i bwyllgor Cyngres Genedlaethol y Bobol basio cynnig yn dweud y dylid diarddel y rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i Hong Kong neu sy’n gwrthod cydnabod sofraniaeth Tsieina, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithredu yn erbyn diogelwch cenedlaethol neu’n gofyn i luoedd allanol ymyrryd ym materion y ddinas.
Mae ymdrechion Tsieina i dawelu protestwyr Hong Kong yn parhau, ar ôl misoedd o wrthdaro y llynedd.