Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau achos positif o’r coronafeirws yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos yn ardal Penparcau yn Aberystwyth.

Gofynnwyd i ddisgyblion a staff o un Grŵp Cyswllt i hunanynysu am gyfnod o 14 diwrnod, i leihau ymlediad y feirws.

Daw hyn ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion gadarnhau achos yn Ysgol Gyfun Penglais yn y dref ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 10).

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mai dim ond un Grŵp Cyswllt sy’n gorfod hunanynysu, o ganlyniad i’r “gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith” yn yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r rhieni ac mae’r Cyngor Sir yn annog pob rhiant i fynd â’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.