Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi atgoffa’r cyhoedd y bydd newid sylweddol iawn y flwyddyn nesaf p’un a fydd cytundeb masnach neu beidio.

50 diwrnod yn unig sydd ar ôl tan ddiwedd y cyfnod pontio.

Dywedodd y bydd pob sefyllfa bosib yn cael effaith niweidiol ar bobol, cymunedau a busnesau yn y tymor byr a’r tymor hir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd, Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio, sy’n amlinellu’r gwaith paratoi ar gyfer y newidiadau hynny, ac i liniaru eu niwed gymaint â phosib.

‘Ansicrwydd a phryder am y cam nesaf’

“Dim ond 50 diwrnod sydd nes i ni ddechrau ar berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd, felly mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau ein bod mor barod ag sy’n ymarferol bosib,” meddai Jeremy Miles.

“Mae ansicrwydd a rhywfaint o bryder am y cam nesaf, ond hoffwn sicrhau pobol Cymru bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu drwy’r newidiadau sydd ar ddod.”

Mae Jeremy Miles hefyd yn feirniadol o sut mae Llywodraeth Prydain wedi bod yn cynnal trafodaethau.

“Er gwaethaf pwysau gennym ni a llawer o sefydliadau eraill, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod gwneud cais i estyn y cyfnod pontio, er bod y ddwy ochr yn wynebu sefyllfa ddigynsail yn sgil y pandemig byd-eang.

“Mae hyn wedi rhoi’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa lle y mae rhaid iddi wneud penderfyniadau cymhleth a radical ynghylch ei dyfodol pan fo cymdeithas eisoes yn wynebu ansicrwydd corfforol, meddyliol ac economaidd.

“Gellid bod wedi osgoi hyn – mae dull gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i arwain gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr yn hytrach na buddiannau tymor hir y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid trywydd ac i flaenoriaethu swyddi, bywoliaethau a sicrwydd economaidd.”

Llythyr at fusnesau

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, hefyd wedi ysgrifennu at ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru yn eu hannog i sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio’r.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i’n busnesau. Mae rheoli effeithiau COVID-19 wedi bod yn her enfawr ynddo’i hun a chyda dim ond hanner can diwrnod o’r flwyddyn ar ôl, rhaid i gwmnïau Cymru hefyd sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio,” meddai Mr Skates.

“O 1 Ionawr, bydd y ffordd rydym yn masnachu gyda’r UE yn wahanol a dyma’r sefyllfa os bydd cytundeb neu beidio. Mae’n hanfodol bod cwmnïau’n cymryd camau nawr i baratoi eu hunain ar gyfer y gwahanol amodau a fydd yn bodoli o 2021 ymlaen.”

“Rwy’n cydnabod yn llwyr fod hwn yn gyfnod gwirioneddol anodd i fusnesau, ond cofiwch ein bod yn awyddus i gefnogi ein cwmnïau a’n pobl yng Nghymru a’n bod yn gwrando ar eu barn a’u pryderon.

“Os na fydd gan y DU gytundeb erbyn diwedd y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn gweithio i ehangu’r gweithgareddau cefnogi busnesau er mwyn sicrhau y bydd cwmnïau a’r bobl yr effeithir yn andwyol arnynt yn gallu manteisio ar gymorth ychwanegol.”