Mae Gweinidog Prifysgolion San Steffan yn galw ar fyfyrwyr o Loegr sy’n astudio yn un o wledydd eraill Prydain i sicrhau eu bod nhw wedi dilyn yr un camau â myfyrwyr o wledydd eraill Prydain cyn mynd adref dros y Nadolig.

Dywed Michelle Donelan ei bod hi’n disgwyl i ganllawiau ar gyfer myfyrwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.

Daw yn sgil sefyllfa lle’r oedd hi’n ymddangos ar un adeg fel na fyddai myfyrwyr yn cael mynd adref dros y Nadolig.

“Os oes yna fyfyriwr o Loegr sy’n astudio yn yr Alban neu yng Nghymru, yr hyn rydyn ni’n ei ddweud wrthyn nhw yw fod angen iddyn nhw, yn syml iawn, fod yn yr un sefyllfa â myfyrwyr o Loegr sydd wedi mynd trwy’r ffenest bedair wythnos o gyfyngiadau cenedlaethol ac felly bod angen o leiaf bythefnos o newid eu hymddygiad, a byddwn yn darparu ymgyrch gyfathrebu i gefnogi hynny, gyda gwybodaeth fel eu bod nhw’n gwybod yn union beth i’w wneud,” meddai.

“Yn yr un modd, os oes yna fyfyriwr o Loegr sy’n mynd yn ôl i’r Alban neu i Gymru neu i Ogledd Iwerddon, gallan nhw edrych am y canllawiau fydd yn dod allan o’r gwledydd hynny dros y dyddiau nesaf.”

Ychwanegodd fod rhaid i brifysgolion sicrhau bod safon eu haddysg yn ddigonol os ydyn nhw am godi’r ffioedd dysgu llawn, ond pwysleisiodd nad yw’n “anochel” nad yw dysgu ar-lein gystal â dysgu wyneb yn wyneb.