Mae Cymru’n wynebu argyfwng iechyd meddwl yn sgil y coronafeirws, yn ôl ymchwil newydd gan brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
Maen nhw’n dweud mai oedolion ifanc, menywod a phobol o ardaloedd difreintiedig sy’n debygol o ddioddef fwyaf.
Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod oddeutu hanner y 13,000 o bobol oedd wedi cymryd rhan mewn ymchwil yn dangos arwyddion o straen seicolegol sylweddol, gydag oddeutu 20% yn dioddef effeithiau difrifol.
Cafodd yr astudiaeth ei chynnal ym Mehefin a Gorffennaf pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf yn sgil y cyfnod clo.
Ymateb i’r ymchwil
Yn ôl yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, cafodd yr arolwg hwn a gafodd ei gynnal rhwng 11 ac 16 wythnos i mewn i’r pandemig ei gymharu â chanlyniadau asesiad cyn Covid-19.
“Fe ddangosodd ostyngiad mawr mewn lles o gymharu â lefelau cyn Covid-19,” meddai, gan rybuddio bod effaith y feirws ar iechyd meddwl yn fwy difrifol nag y mae astudiaethau blaenorol yn ei awgrymu.
“Mae hyn fwy na thebyg yn adlewyrchu bod y data presennol wedi’i gymryd ymhellach i mewn i’r cyfnod clo na gwerthusiadau blaenorol,” meddai.
“Mae angen i wasanaethau sector cyhoeddus baratoi ar gyfer y cynnydd hwn mewn problemau iechyd meddwl gyda phwyslais ar oedolion iau, menywod ac ardaloedd mwy difreintiedig.”
Mae’r ymchwilwyr yn paratoi i ailddechrau’r asesiad er mwyn asesu effeithiau parhaus y feirws.
Effeithiau’r cyfnodau clo
“Tra bod angen gwyddoniaeth arnom i frwydro canlyniadau corfforol yr afiechyd ac i leihau cyfraddau heintio, mae hefyd angen i ni ddeall canlyniadau gweithredoedd fel cyfnodau clo ar iechyd a lles meddygliol pobol fel nad yw unrhyw driniaeth yn waeth na’r afiechyd mae’n ceisio’i wella,” meddai’r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd.
Mae papur yr ymchwilwyr, The Influence Of The Covid-19 Pandemic On Mental Wellbeing And Psychological Distress: Impact Upon A Single Country, wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Frontiers In Psychiatry.