Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd ysgol newydd gwerth £48m yn cael ei hadeiladu yn nhref Machynlleth.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu dros £31m tuag at y prosiect i ailwampio Ysgol Bro Hyddgen.
Cafodd y cynllun gwreiddiol ei ohirio wedi i’r cwmni adeiladu Dawnus fynd i’r wal yn 2019.
Bydd yr ysgol i 620 o blant o bob oed yn cael ei hadeiladu ar gaeau chwarae presennol y campws uwchradd gyda chyfleusterau blynyddoedd cynnar ynghyd â chanolfan hamdden a llyfrgell newydd.
Dyma hefyd fydd yr ysgol Passibhaus cyntaf yn y Deyrnas Unedig gyda safonau effeithlonrwydd ynni uchel ac sy’n lleihau allyriadau CO2 yr adeilad.
Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn ystyried newid iaith yr ysgol.
‘Prosiect cyffrous i Fachynlleth a’r cyffiniau’
Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi cymeradwyo Achos Amlinellol Strategol ac Achos Busnes Amlinellol y cynllun ar y cyd â’r cyngor.
“Mae hwn yn brosiect cyffrous i Fachynlleth a’r cyffiniau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif iawn i’r boblogaeth leol,” meddai.
“Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys yr ysgol a gofal plant, mannau i’w defnyddio gan y gymuned gyfan a chyfleusterau hamdden a llyfrgell o’r radd flaenaf i bobl o bob oed.
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynlluniau cyffrous hyn, a fydd wrth wraidd y gymuned ac yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer prosiectau ledled Cymru yn y dyfodol.”
Darparu amgylcheddau addysgu o ansawdd uchel
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Addysg ac Eiddo, ei fod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cynlluniau.
“Mae cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddsoddiad enfawr yn ein seilwaith ysgolion,” meddai.
“Nid yn unig y byddwn yn darparu cyfleuster sy’n canolbwyntio ar y gymuned, Ysgol Bro Hyddgen fydd yr ysgol pob oed Passivhaus gyntaf yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig gyda phwll nofio a chyfleusterau hamdden.
“Un o amcanion ein Gweledigaeth 2025 yw darparu amgylcheddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel a bydd ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yn ein helpu i gyflwyno’r weledigaeth hon.”
Bydd y cyngor yn awr yn symud ymlaen i gam Achos Busnes Llawn y prosiect.