Bydd gwaith datgomisiynu safle niwclear Trawsfynydd yn cael ei ohirio am bythefnos yn sgil achosion o’r coronafeirws ymysg staff.
Mae’r cwmni niwclear Magnox wedi cadarnhau fod yno “nifer fechan” o achosion positif – mae’n debyg mai oddeutu 10 o achosion sydd wedi eu cadarnhau.
Stopiodd Trawsfynydd weithredu ym 1993 ond mae dros 200 o staff yn dal i weithio ar ddatgomisiynu’r y safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Magnox: “Rydym wrthi’n mynd ati i oedi nifer o weithgareddau gwaith ar safle Trawsfynydd am gyfnod o 14 diwrnod o ganlyniad i nifer fach o weithwyr yn profi’n bositif am y coronafeirws.
“Mae hyn er mwyn cyfyngu ar ledaeniad posibl o fewn yr amgylchedd gwaith a chefnogi’r gymuned leol.
“O ddydd Mercher, Tachwedd 11, byddwn yn lleihau ein gweithwyr ar y safle yn raddol.
“Bydd y safle’n cynnal gweithgareddau diogelwch a chydymffurfiaeth amgylcheddol ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gwaith datgomisiynu ailddechrau’n gyflym.”