Mae’r diwydiant theatr yng Nghymru yn siomedig iawn nad yw theatrau wedi cael ailagor ar ôl y cyfnod clo byr a ddaeth i ben ddydd Llun diwethaf, Tachwedd 9.

Mae cynrychiolwyr rhai o’n prif ganolfannau theatr – gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Sherman, Theatr Clwyd a Chanolfan y Mileniwm – wedi sgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos ddiwetha’ yn gofyn am gyfarfod ac yn cynnig ‘Fframwaith ar gyfer ail-agor’ er mwyn ceisio gweithio tuag at ail-agor yn ddiogel.

Nid yw theatrau wedi cael ailagor, er bod sinemâu, neuaddau bingo, amgueddfeydd ac orielau wedi cael yr hawl i wneud hynny.

“O ddydd Llun, mae’r Llywodraeth yn meddwl ei bod hi’n berffaith ddiogel i bobol fynd i’r bingo, i’r casino, ac i’r pictiwrs hyd yn oed, ond ddim i’r theatr – rydan ni’n gweld hynny’n annheg,” meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

“Pan fo 15 o bobol yn gallu ymgynnull mewn neuadd bentref ar gyfer pa bynnag fath o weithgaredd, chaiff 15 o bobl ddim ymgynnull mewn theatr i wylio drama,” meddai.

“Y cwbl rydan ni’n ofyn amdano ydi sedd wrth y bwrdd. Rydan ni’n galw am gyfarfod gyda Mark Drakeford a’i swyddogion i weld sut y gallwn ni gydweithio i wneud iawn am yr anghyfartaledd clir yma. Mae yna ddiffyg rhesymeg yn perthyn i’r peth.”

Categori’r clybiau nos yn hytrach na sinemâu

Yn ôl Rheoliadau Llywodraeth Cymru: ‘Mae’n dal yn ofynnol i theatrau, neuaddau cyngerdd, clybiau nos a lleoliadau adloniant rhywiol aros ynghau.’

“Maen nhw’n ein rhoi ni yn yr un cae â’r rheiny,” meddai Arwel Gruffydd, “pan rydan ni eisio cael ein gweld ochr yn ochr â sinemâu, casinos, bingos, a’r diwydiant lletygarwch.

“Dydan ni ddim yn ei weld o’n deg fod pobol yn gallu mynd i gasino, ond dydi’r rheiny sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig ddim yn gallu mynd i weld drama. Does dim synnwyr yn hynny.”

Yn ôl y Canllawiau’r Llywodraeth: ‘Byddwn yn ail-gyhoeddi canllawiau ar gyfer ail-agor cyrchfannau diwylliannol a threftadaeth yn raddol, fydd yn cynnwys canllawiau ar gyfer ail-agor theatrau a neuaddau cyngerdd pan fydd amodau yn caniatáu.’

Ond mae’r sector theatr yn galw am weithredu ar frys, er mwyn i theatrau fod mewn sefyllfa well erbyn y Flwyddyn Newydd er mwyn arbed tymor gwanwyn a haf 2021, ac felly ddyfodol y canolfannau a’r cwmnïau theatr, a’r busnesau adloniant, sy’n gyflogwyr mawr.

“Dydi o ddim yn deg ar y diwydiant theatr, a ninnau’n ddiwydiant sydd wedi bod ar ein gliniau ers wyth mis, bod yna ddim math eto fyth o gynllun ar gyfer agor theatrau a chael canllawiau ac amserlen i wneud hynny,” meddai Arwel Gruffydd. “Rydyn ni’n gwbl hyderus ein bod ni’n gallu gwneud hynny, yn ddiogel gan ddilyn canllawiau llym.

“Rydan ni’n rhoi blaenoriaeth wrth reswm i ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd a’n gweithwyr, ond does bosib na fedar staff arbennig a phrofiadol theatrau gynnal digwyddiadau i nifer fach o bobol fel man cychwyn, pan fo’r Llywodraeth yn meddwl ei fod yn gwbl resymol i wneud hynny mewn bob math o adeilad arall ond nid mewn theatr.

“O bosib, dw i’n meddwl bod yna ofn bod yna nifer fawr iawn o bobol yn mynd i ymgynnull. Ond mi fedrwn ni gychwyn drwy gynnal digwyddiadau bychain iawn, a gweld sut mae hynny’n mynd a mynd gam wrth gam tuag at adfer y sefyllfa.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn i’r sector a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth tuag at ail-agor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn.”

Hyd yma, mae dros £30m wedi’i ddosbarthu drwy Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi pecyn o £20m ar gyfer y sector fis diwethaf.

Ystadegau

Yn ôl y sector theatr, mae 75% o bobol Cymru yn mynd i weithgaredd gelfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth deirgwaith neu ragor y flwyddyn.

Ar y cyd, yn 2019/20, roedd Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Sherman, National Theatre Wales, Theatr Clwyd a Chanolfan y Mileniwm:

  • wedi gwneud trosiant blynyddol o £39.7m
  • wedi gwneud impact economaidd ychwanegol o £89m
  • wedi cyflogi 645 o bobol
  • wedi cyflogi 1,111 o weithwyr llawrydd
  • wedi rhannu eu gwaith gyda 2,031,499 o gynulleidfa ac ymgysylltu â 202,215 o’r cyhoedd.