Mewn cyfweliad arbennig mae Dr Chris Thorpe, sy’n Feddyg Ymgynghorol mewn Anaestheteg a Thriniaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws y gaeaf hwn…

Eleni fe fydd ysbytai Cymru yn treulio’r gaeaf yn ceisio ymdopi gyda’u llwyth gwaith arferol tra hefyd yn ceisio arbed bywydau cleifion Covid-19.