Mae yna gryn ddyfalu be’ fydd Donald Trump yn ei wneud nesa’, yn ôl Cymraes sy’n newyddiadura yn Washington. Yn wreiddiol o Gonwy, mae Maxine Hughes wedi bod yn cadw llygad barcud ar yr etholiad yn America…

Ac yntau dal yn Arlywydd am ryw hyd, mae Donald Trump yn ddiogel rhag cael ei erlyn.

Ond pan ddaw tro Joe Biden i arwain yr Unol Daleithiau ar Ionawr yr 20fed, bydd Trump ar ei ben ei hun – ac mae rhai cysgodion tywyll yn ei ddilyn.